21Unigolion cyfrifolLL+C
(1)Yn y Rhan hon, ystyr “unigolyn cyfrifol” yw unigolyn—
(a)sy’n gymwys i fod yn unigolyn cyfrifol o dan is-adran (2),
(b)y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei fod yn berson addas a phriodol i fod yn unigolyn cyfrifol (gweler adran 9), ac
(c)sydd wedi ei ddynodi gan ddarparwr gwasanaeth mewn cysylltiad â man y mae’r darparwr yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef ac a bennir felly yng nghofrestriad y darparwr gwasanaeth.
(2)I fod yn gymwys i fod yn unigolyn cyfrifol rhaid i’r unigolyn—
(a)pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn, fod y darparwr gwasanaeth;
(b)pan fo’r darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, fod yn un o’r partneriaid;
(c)pan fo’r darparwr gwasanaeth yn gorff corfforaethol ac eithrio awdurdod lleol—
(i)bod yn gyfarwyddwr neu’n swyddog tebyg yn y corff,
(ii)yn achos cwmni cyfyngedig cyhoeddus, fod yn gyfarwyddwr neu’n ysgrifennydd yn y cwmni, neu
(iii)yn achos corff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, fod yn aelod o’r corff;
(d)pan fo’r darparwr gwasanaeth yn gorff anghorfforedig, fod yn aelod o’r corff;
(e)pan fo’r darparwr gwasanaeth yn awdurdod lleol, fod yn swyddog yn yr awdurdod lleol a ddynodir gan gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod.
(3)At ddibenion is-adran (2)(e), dim ond os yw cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol yn meddwl bod gan swyddog y profiad a’r arbenigedd angenrheidiol i fod yn unigolyn cyfrifol y caiff ddynodi’r swyddog hwnnw.
(4)Caniateir i’r un unigolyn cyfrifol gael ei ddynodi mewn cysylltiad â mwy nag un man y darperir gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef.
(5)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau—
(a)pennu amgylchiadau pan gaiff Gweinidogion Cymru (yn lle darparwr gwasanaeth) ddynodi unigolyn i fod yn unigolyn cyfrifol er nad yw gofynion is-adran (2) wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r unigolyn, a
(b)gwneud darpariaeth i’r Rhan hon fod yn gymwys gydag addasiadau rhagnodedig i unigolyn cyfrifol o’r fath.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 1 cymhwysol (gydag addasiadau) (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/762), rhlau., 57(3)
C2Rhn. 1 cymhwysol (gydag addasiadau) (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/165), rhlau. 1(2), 58(3)
C3Rhn. 1 cymhwysol (gydag addasiadau) (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/163), rhlau. 1(2), 67(3)
C4Rhn. 1 cymhwysol (gydag addasiadau) (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/169), rhlau. 1(2), 71
C5A. 21(2) cyfyngwyd (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/169), rhlau. 1(2), 72
C6A. 21(2) cyfyngwyd (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/165), rhlau. 1(2), 59
C7A. 21(2) cyfyngwyd (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/163), rhlau. 1(2), 68
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 21 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(d)