RHAN 1LL+CRHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 2LL+CCOFRESTRU ETC. DARPARWYR GWASANAETHAU

Rheoliadau a chanllawiauLL+C

29Canllawiau ynghylch rheoliadau o dan adrannau 27 a 28LL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau ynghylch—

(a)sut y caiff darparwyr gwasanaethau gydymffurfio â gofynion a osodir drwy reoliadau o dan adran 27(1) (gan gynnwys sut y caiff darparwyr gyrraedd unrhyw safonau ar gyfer darparu gwasanaeth rheoleiddiedig a bennir drwy reoliadau o’r fath);

(b)sut y caiff unigolion cyfrifol gydymffurfio â gofynion a osodir drwy reoliadau o dan adran 28(1).

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio canllawiau a gyhoeddir o dan is-adran (1) a rhaid iddynt gyhoeddi’r canllawiau diwygiedig.

(3)Rhaid i ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol roi sylw i ganllawiau a gyhoeddir o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 29 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(d)