RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL
PENNOD 1CYFLWYNIAD
3Termau allweddol eraill
(1)
Yn y Ddeddf hon—
(a)
ystyr “gofal” yw gofal sy’n ymwneud ag—
(i)
tasgau ac anghenion corfforol beunyddiol y person y gofelir amdano (er enghraifft, bwyta ac ymolchi), a
(ii)
y prosesau meddyliol sy’n ymwneud â’r tasgau a’r anghenion hynny (er enghraifft, y broses feddyliol o gofio bwyta ac ymolchi);
(b)
ystyr “swyddogaethau rheoleiddiol” yw swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan—
(i)
y Rhan hon,
(ii)
adrannau 94A a 149A i 161B o Ddeddf 2014, a
(iii)
adran 15 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p.38) (arolygu mangreoedd sy’n ymwneud â gwasanaethau mabwysiadu),
ond nid yw unrhyw swyddogaeth o wneud, cadarnhau neu gymeradwyo is-ddeddfwriaeth (fel y’i diffinnir gan adran 158(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32)) yn swyddogaeth reoleiddiol;
(c)
ystyr “darparwr gwasanaeth” yw person sydd wedi ei gofrestru o dan adran 7 i ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig;
(d)
ystyr “cymorth” yw cwnsela, cyngor neu help arall, a ddarperir fel rhan o gynllun a luniwyd ar gyfer y person sy’n cael cymorth gan—
(i)
ddarparwr gwasanaeth neu berson arall sy’n darparu gofal a chymorth i’r person, neu
(ii)
awdurdod lleol (hyd yn oed os nad yw’r awdurdod yn darparu gofal a chymorth i’r person).
(2)
Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at “gofal a chymorth” i’w darllen fel cyfeiriadau at—
(a)
gofal,
(b)
cymorth, neu
(c)
gofal a chymorth.
(3)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ragnodi pethau nad ydynt, er gwaethaf is-adran (1)(a) a (d), i’w trin fel gofal a chymorth at ddibenion y Ddeddf hon.