Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

31Rheoliadau ynghylch darparwyr gwasanaethau sydd wedi marwLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth—

(a)i’r Rhan hon fod yn gymwys gydag addasiadau rhagnodedig pan fo darparwr gwasanaeth sy’n unigolyn wedi marw;

(b)sy’n ei gwneud yn ofynnol i gynrychiolwyr personol unigolyn o’r fath hysbysu Gweinidogion Cymru am y farwolaeth.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) yn benodol ddarparu i berson rhagnodedig nad yw’n ddarparwr gwasanaeth weithredu yn y rhinwedd honno am gyfnod rhagnodedig ac i’r cyfnod hwnnw gael ei estyn o dan amgylchiadau rhagnodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 31 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(d)