RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 3GWYBODAETH AC AROLYGIADAU

37Graddau arolygu

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch graddau y caniateir iddynt gael eu rhoi mewn perthynas ag ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan ddarparwr gwasanaeth sydd wedi cael ei arolygu.

(2)

O ran rheoliadau o dan is-adran (1)—

(a)

cânt wneud darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddarparwr gwasanaeth arddangos gradd sydd wedi ei chynnwys mewn adroddiad a lunnir o dan adran 36(1) yn y modd, ac yn y man, a bennir gan y rheoliadau,

(b)

caniateir iddynt bennu meini prawf i’w cymhwyso wrth benderfynu ar radd, ac

(c)

rhaid iddynt gynnwys darpariaeth i ddarparwr gwasanaeth apelio yn erbyn gradd sydd wedi ei chynnwys mewn adroddiad a lunnir o dan is-adran 36(1).

(3)

Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (1) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.

(4)

Ond nid yw’r gofyniad i ymgynghori yn gymwys i reoliadau—

(a)

sy’n diwygio rheoliadau eraill a wneir o dan yr is-adran honno, a

(b)

nad ydynt, ym marn Gweinidogion Cymru, yn rhoi effaith i unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau sydd i’w diwygio.