RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL
PENNOD 4SWYDDOGAETHAU CYFFREDINOL
39Hysbysu awdurdodau lleol am gamau penodol a gymerir o dan y Rhan hon
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu pob awdurdod lleol am—
(a)
canslo cofrestriad darparwr gwasanaeth;
(b)
amrywio cofrestriad darparwr gwasanaeth drwy ddileu o’r cofrestriad—
(i)
gwasanaeth rheoleiddiedig, neu
(ii)
man y mae’r darparwr yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef;
(c)
gwneud gorchymyn gan ynad heddwch o dan adran 23 (canslo ar frys neu amrywio ar frys drwy ddileu gwasanaeth neu fan);
(d)
canslo dynodiad unigolyn cyfrifol o dan adran 22;
(e)
achosion sy’n cael eu dwyn yn erbyn person mewn cysylltiad â throsedd o dan y Rhan hon neu o dan reoliadau a wneir odani;
(f)
hysbysiad cosb a roddir o dan adran 52;
(g)
unrhyw beth arall a all ddigwydd yn rhinwedd y Rhan hon neu reoliadau a wneir odani a ragnodir.
(2)
Rhaid i hysbysiad o dan yr adran hon gynnwys unrhyw wybodaeth arall a ragnodir.
(3)
Yn is-adran (1) mae’r cyfeiriad at “awdurdod lleol” yn cynnwys cyfeiriad at—
(a)
cyngor sir yn Lloegr,
(b)
cyngor dosbarth ar gyfer ardal yn Lloegr nad oes cyngor sir ar ei chyfer,
(c)
cyngor bwrdeistref yn Llundain,
(d)
Cyngor Cyffredin Dinas Llundain, ac
(e)
Cyngor Ynysoedd Scilly.