RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 4SWYDDOGAETHAU CYFFREDINOL

I1I240Codi ffioedd

1

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i ffi gael ei thalu gan berson—

a

sy’n gwneud cais i gofrestru fel darparwr gwasanaeth (gweler adran 6);

b

sy’n gwneud cais i amrywio cofrestriad (gweler adran 11);

c

er mwyn ei ganiatáu i barhau i gael ei gofrestru fel darparwr gwasanaeth am gyfnod a bennir yn y rheoliadau;

d

i gael copi o adroddiad arolygu (gweler adran 36(3)(c));

e

i gael copi o’r gofrestr a gyhoeddir o dan adran 38(3), neu ddarn ohoni.

2

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) gynnwys darpariaeth—

a

sy’n pennu swm unrhyw ffi neu sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru benderfynu ar swm unrhyw ffi (yn ddarostyngedig i unrhyw derfynau neu ffactorau eraill a bennir yn y rheoliadau);

b

sy’n pennu amgylchiadau pan na fo ffi, a fyddai fel arall yn daladwy o dan y rheoliadau, yn daladwy;

c

sy’n pennu’r amser ar gyfer talu ffi neu sy’n pennu’r ffactorau ar gyfer penderfynu ar yr amser hwnnw gan Weinidogion Cymru;

d

ynghylch canlyniadau methu â thalu ffi (a gaiff gynnwys gwrthod cofrestriad, neu ganslo cofrestriad).

3

Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (1) rhaid i Weinidogion Cymru gymryd camau rhesymol i ymgynghori—

a

â phersonau y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl y gall fod yn ofynnol iddynt dalu ffi yn rhinwedd y rheoliadau, a

b

ag unrhyw bersonau arall sy’n briodol yn eu barn hwy.

4

Caniateir i ffi sy’n daladwy yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan is-adran (1), heb ragfarnu unrhyw fodd arall o adennill, gael ei hadennill yn ddiannod fel dyled sifil.