RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 5TROSEDDAU A CHOSBAU

51Cosbau ar gollfarn

(1)

Mae person sy’n euog o drosedd o dan adran 5, 43, 44, 47, 49 neu 50 neu o dan reoliadau a wneir o dan adran 45 neu 46 yn agored—

(a)

ar gollfarn ddiannod, i ddirwy, neu i’w garcharu am dymor nad yw’n hwy na 6 mis, neu i’r ddau;

(b)

ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy, neu i’w garcharu am dymor nad yw’n hwy na 2 flynedd, neu i’r ddau.

(2)

Mae person sy’n euog o drosedd o dan adran 48 yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy.