C6C5C4C3C7RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL

Annotations:

C6C5C4C3PENNOD 5TROSEDDAU A CHOSBAU

I1I2C1C6C5C4C3C254C6C5C4C3Troseddau gan gyrff anghorfforedig

1

Mae’r adran hon yn gymwys i droseddau o dan y Rhan hon ac o dan reoliadau a wneir odani.

2

Caniateir i achos am drosedd yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan gorff anghorfforedig gael ei ddwyn yn enw’r corff yn lle yn enw unrhyw un neu ragor o’i aelodau ac, at ddibenion unrhyw achos o’r fath, mae unrhyw reolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r corff hwnnw yn gorff corfforaethol.

3

Mae unrhyw ddirwy a osodir ar gorff anghorfforedig ar ei gollfarnu o drosedd i’w thalu o gronfeydd y corff hwnnw.

4

Os caiff corff anghorfforedig ei gyhuddo o drosedd, mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925 (p.86) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p.43) yn cael effaith fel pe bai corff corfforaethol wedi ei gyhuddo.