RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 6GWASANAETHAU CYMDEITHASOL AWDURDODAU LLEOL

58Rheoleiddio swyddogaethau awdurdodau lleol sy’n ymwneud â phlant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya

Ar ôl adran 94 o Ddeddf 2014 (rheoliadau ynghylch trefniadau asiantaeth) mewnosoder⁠—

“Rheoleiddio swyddogaethau awdurdodau lleol sy’n ymwneud â phlant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya

94ARheoleiddio’r arferiad o swyddogaethau awdurdodau lleol sy’n ymwneud â phlant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya

(1)

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch yr arferiad gan awdurdodau lleol o swyddogaethau a roddir iddynt gan—

(a)

adran 81 (y ffyrdd y mae plant sy’n derbyn gofal i’w lletya a’u cynnal), neu

(b)

rheoliadau a wneir o dan adran 87 (rheoliadau ynghylch plant sy’n derbyn gofal) sy’n gwneud darpariaeth megis yr hyn a grybwyllir yn adran 92(1), 93 neu 94.

(2)

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1), er enghraifft, gynnwys darpariaeth—

(a)

o ran y personau sy’n addas i weithio i awdurdodau lleol mewn cysylltiad ag arfer y swyddogaethau hynny,

(b)

o ran addasrwydd y mangreoedd sydd i’w defnyddio gan awdurdodau lleol wrth arfer y swyddogaethau hynny,

(c)

o ran rheoli’r arferiad o’r swyddogaethau hynny a’r rheolaeth ar arfer y swyddogaethau hynny,

(d)

o ran nifer y personau, neu bersonau o fath penodol, sy’n gweithio i awdurdodau lleol mewn cysylltiad ag arfer y swyddogaethau hynny,

(e)

o ran rheoli a hyfforddi’r personau hynny, ac

(f)

o ran y ffioedd neu’r treuliau y caniateir iddynt gael eu talu i bersonau sy’n helpu awdurdodau lleol i wneud penderfyniadau wrth arfer y swyddogaethau hynny.

(3)

Caiff rheoliadau o dan is-adran (2)(a), yn benodol, wneud darpariaeth sy’n pennu nad yw person yn addas i weithio i awdurdod lleol mewn unrhyw swydd a bennir os nad yw’r person wedi ei gofrestru yn y gofrestr a gedwir o dan adran 80 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (cofrestru gweithwyr gofal cymdeithasol), neu mewn rhan benodol o’r gofrestr honno.

94BY drosedd o dorri rheoliadau o dan adran 94A

(1)

Caiff rheoliadau ddarparu ei bod yn drosedd i berson dorri darpariaeth benodedig mewn rheoliadau a wneir o dan adran 94A neu fethu â chydymffurfio â darpariaeth o’r fath.

(2)

Mae person sy’n euog o drosedd o dan reoliadau a wneir o dan is-adran (1) yn agored—

(a)

ar gollfarn ddiannod, i ddirwy, neu i’w garcharu am dymor nad yw’n hwy na 6 mis, neu i’r ddau;

(b)

ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy, neu i’w garcharu am dymor nad yw’n hwy na 2 flynedd, neu i’r ddau.

(3)

Mae adrannau 53 (troseddau gan gyrff corfforaethol), 54 (troseddau gan gyrff anghorfforedig) a 55 (achosion am droseddau) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn gymwys i drosedd o dan reoliadau a wneir o dan is-adran (1) fel y maent yn gymwys i droseddau o dan Ran 1 o’r Ddeddf honno.”