Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 1 cymhwysol (gydag addasiadau) (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/762), rhlau., 57(3)
C2Rhn. 1 cymhwysol (gydag addasiadau) (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/165), rhlau. 1(2), 58(3)
C3Rhn. 1 cymhwysol (gydag addasiadau) (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/163), rhlau. 1(2), 67(3)
C4Rhn. 1 cymhwysol (gydag addasiadau) (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/169), rhlau. 1(2), 71
C5Rhn. 1 cymhwyswyd (gydag addasiadau) (31.3.2024) gan Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024 (O.S. 2024/388), rhlau. 1(2), 79(3)
Ar ôl adran 94 o Ddeddf 2014 (rheoliadau ynghylch trefniadau asiantaeth) mewnosoder—
(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch yr arferiad gan awdurdodau lleol o swyddogaethau a roddir iddynt gan—
(a)adran 81 (y ffyrdd y mae plant sy’n derbyn gofal i’w lletya a’u cynnal), neu
(b)rheoliadau a wneir o dan adran 87 (rheoliadau ynghylch plant sy’n derbyn gofal) sy’n gwneud darpariaeth megis yr hyn a grybwyllir yn adran 92(1), 93 neu 94.
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1), er enghraifft, gynnwys darpariaeth—
(a)o ran y personau sy’n addas i weithio i awdurdodau lleol mewn cysylltiad ag arfer y swyddogaethau hynny,
(b)o ran addasrwydd y mangreoedd sydd i’w defnyddio gan awdurdodau lleol wrth arfer y swyddogaethau hynny,
(c)o ran rheoli’r arferiad o’r swyddogaethau hynny a’r rheolaeth ar arfer y swyddogaethau hynny,
(d)o ran nifer y personau, neu bersonau o fath penodol, sy’n gweithio i awdurdodau lleol mewn cysylltiad ag arfer y swyddogaethau hynny,
(e)o ran rheoli a hyfforddi’r personau hynny, ac
(f)o ran y ffioedd neu’r treuliau y caniateir iddynt gael eu talu i bersonau sy’n helpu awdurdodau lleol i wneud penderfyniadau wrth arfer y swyddogaethau hynny.
(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (2)(a), yn benodol, wneud darpariaeth sy’n pennu nad yw person yn addas i weithio i awdurdod lleol mewn unrhyw swydd a bennir os nad yw’r person wedi ei gofrestru yn y gofrestr a gedwir o dan adran 80 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (cofrestru gweithwyr gofal cymdeithasol), neu mewn rhan benodol o’r gofrestr honno.
(1)Caiff rheoliadau ddarparu ei bod yn drosedd i berson dorri darpariaeth benodedig mewn rheoliadau a wneir o dan adran 94A neu fethu â chydymffurfio â darpariaeth o’r fath.
(2)Mae person sy’n euog o drosedd o dan reoliadau a wneir o dan is-adran (1) yn agored—
(a)ar gollfarn ddiannod, i ddirwy, neu i’w garcharu am dymor nad yw’n hwy na 6 mis, neu i’r ddau;
(b)ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy, neu i’w garcharu am dymor nad yw’n hwy na 2 flynedd, neu i’r ddau.
(3)Mae adrannau 53 (troseddau gan gyrff corfforaethol), 54 (troseddau gan gyrff anghorfforedig) a 55 (achosion am droseddau) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn gymwys i drosedd o dan reoliadau a wneir o dan is-adran (1) fel y maent yn gymwys i droseddau o dan Ran 1 o’r Ddeddf honno.”
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 58 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 58 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(f)