RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL
PENNOD 2COFRESTRU ETC. DARPARWYR GWASANAETHAU
Ymgeisio, amrywio a chanslo cofrestriad
6Cais i gofrestru fel darparwr gwasanaeth
(1)
Rhaid i berson sy’n dymuno darparu gwasanaeth rheoleiddiedig wneud cais ar gyfer cofrestru i Weinidogion Cymru—
(a)
sy’n pennu’r gwasanaeth rheoleiddiedig y mae’r person yn dymuno ei ddarparu,
(b)
sy’n pennu’r mannau y mae’r gwasanaeth i’w ddarparu ynddynt, ohonynt neu mewn perthynas â hwy,
(c)
sy’n dynodi unigolyn fel yr unigolyn cyfrifol mewn cysylltiad â phob un o’r mannau hynny ac sy’n datgan enw a chyfeiriad pob unigolyn o’r fath (mae adran 21 yn nodi pwy y caniateir iddo gael ei ddynodi’n unigolyn cyfrifol), a
(d)
sy’n cynnwys unrhyw wybodaeth arall a ragnodir.
(2)
Rhaid i gais fod ar y ffurf ragnodedig.
(3)
Caiff person sy’n dymuno cael ei gofrestru fel darparwr gwasanaeth mewn cysylltiad â dau neu ragor o wasanaethau rheoleiddiedig wneud un cais mewn cysylltiad â hwy.