Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

68Amcanion GCCLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Prif amcan GCC wrth gyflawni ei swyddogaethau yw diogelu, hybu a chynnal diogelwch a llesiant y cyhoedd yng Nghymru.

(2)Wrth gyflawni’r amcan hwnnw, rhaid i GCC arfer ei swyddogaethau gyda golwg ar hybu a chynnal—

(a)safonau uchel yn y ddarpariaeth o wasanaethau gofal a chymorth,

(b)safonau uchel o ymddygiad ac ymarfer ymhlith gweithwyr gofal cymdeithasol,

(c)safonau uchel o ran hyfforddi gweithwyr gofal cymdeithasol, a

(d)hyder y cyhoedd mewn gweithwyr gofal cymdeithasol.

(3)Gweler adran 69 am ystyr “gwasanaethau gofal a chymorth” ac adran 79 am ystyr “gweithiwr gofal cymdeithasol”.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 68 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 68 mewn grym ar 11.7.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/713, ergl. 2

I3A. 68 mewn grym ar 3.4.2017 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)