RHAN 3GOFAL CYMDEITHASOL CYMRU
Cyngor a chynhorthwy
I1I269Cyngor a chynhorthwy mewn perthynas â gwasanaethau gofal a chymorth
1
Caiff GCC roi cyngor neu gynhorthwy arall (gan gynnwys grantiau) i unrhyw berson sy’n darparu gwasanaeth gofal a chymorth at ddiben annog gwelliant yn y ddarpariaeth o’r gwasanaeth hwnnw.
2
Caiff GCC atodi unrhyw amodau i grant a roddir o dan is-adran (1) sy’n briodol yn ei farn ef.
3
Ystyr “gwasanaeth gofal a chymorth” yw—
a
gwasanaeth rheoleiddiedig, neu
b
unrhyw wasanaeth arall yng Nghymru sy’n ymwneud â’r ddarpariaeth o ofal a chymorth gan weithwyr gofal cymdeithasol.
4
Gweler adran 2 am ystyr “gwasanaeth rheoleiddiedig” ac adran 3 am ystyr “gofal a chymorth”.