RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL
PENNOD 2COFRESTRU ETC. DARPARWYR GWASANAETHAU
Ymgeisio, amrywio a chanslo cofrestriad
7Caniatáu neu wrthod cofrestriad fel darparwr gwasanaeth
1
Rhaid i Weinidogion Cymru ganiatáu cais o dan adran 6 os ydynt wedi eu bodloni—
a
bod y cais—
i
yn cynnwys popeth sy’n ofynnol gan neu o dan is-adran (1) o’r adran honno,
ii
yn achos cais sy’n ymwneud â gwasanaeth cymorth cartref, yn cynnwys yr ymgymeriad yn adran 8, a
iii
yn bodloni’r gofynion a ragnodir o dan adran 6(2);
b
bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i fod yn ddarparwr gwasanaeth (gweler adran 9);
c
o ran pob unigolyn sydd i’w ddynodi’n unigolyn cyfrifol—
i
ei fod yn gymwys i fod yn unigolyn cyfrifol yn unol ag adran 21(2),
ii
ei fod yn berson addas a phriodol i fod yn unigolyn cyfrifol (gweler adran 9), a
iii
y bydd yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion mewn rheoliadau o dan adran 28 (i’r graddau y bônt yn gymwys);
d
y bydd cydymffurfedd â gofynion—
i
unrhyw reoliadau o dan adran 27 (gan gynnwys unrhyw ofynion o ran safon y gofal a’r cymorth y mae rhaid eu darparu), a
ii
unrhyw ddeddfiad arall yr ymddengys i Weinidogion Cymru ei fod yn berthnasol,
(i’r graddau y bônt yn gymwys) mewn perthynas â darparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig.
2
Mewn unrhyw achos arall rhaid i Weinidogion Cymru wrthod cais.
3
O ran caniatáu cais—
a
rhaid iddo fod yn ddarostyngedig i amod sy’n pennu—
i
y mannau y mae’r darparwr gwasanaeth i ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddynt, ohonynt neu mewn perthynas â hwy, a
ii
yr unigolyn sydd wedi ei ddynodi fel yr unigolyn cyfrifol ar gyfer pob un o’r mannau hynny, a
b
caiff fod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau pellach sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.
4
Pan fo person wedi gwneud un cais mewn cysylltiad â dau neu ragor o wasanaethau rheoleiddiedig caiff Gweinidogion Cymru ganiatáu neu wrthod y cais ar wahân mewn cysylltiad â phob gwasanaeth.
5
Ond dim ond os yw gofynion adrannau 18 i 20 wedi eu bodloni (i’r graddau y bônt yn gymwys) y mae caniatâd i gais yn cymryd effaith.