Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Valid from 03/04/2017

72Datganiad polisi mewn cysylltiad â dwyn achosion troseddolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i GCC lunio a chyhoeddi datganiad o’i bolisi mewn cysylltiad â dwyn achosion troseddol ganddo.

(2)Caiff GCC—

(a)diwygio ei ddatganiad polisi a chyhoeddi’r datganiad diwygiedig, neu

(b)cyhoeddi datganiad polisi newydd.

(3)Rhaid i GCC roi sylw i’r datganiad polisi diweddaraf a gyhoeddwyd o dan yr adran hon wrth arfer ei swyddogaethau.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 72 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)