RHAN 3GOFAL CYMDEITHASOL CYMRU

Rheolau a wneir gan GCC o dan y Ddeddf hon

73Rheolau: cyffredinol

(1)

Rhaid i unrhyw bŵer a roddir i GCC gan neu o dan y Ddeddf hon i wneud rheolau gael ei arfer yn ysgrifenedig drwy offeryn.

(2)

Rhaid i offeryn sy’n cynnwys rheolau bennu’r ddarpariaeth y gwneir y rheolau odani.

(3)

I’r graddau nad yw offeryn sy’n cynnwys rheolau yn cydymffurfio ag is-adran (2) mae’n ddi-rym.

(4)

Caniateir i unrhyw bŵer sydd gan GCC i wneud rheolau a roddir gan neu o dan y Ddeddf hon gael ei arfer—

(a)

er mwyn gwneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;

(b)

er mwyn gwneud darpariaeth gysylltiedig, atodol, ganlyniadol a throsiannol.

(5)

Rhaid i GCC

(a)

cyhoeddi rheolau a wneir ganddo, a

(b)

sicrhau bod y rheolau ar gael yn gyhoeddus hyd nes y byddant yn peidio â chael effaith.

(6)

Caiff GCC godi ffi am ddarparu i berson gopi o’r rheolau a wneir ganddo.