RHAN 3GOFAL CYMDEITHASOL CYMRU

Ymgynghori cyn gwneud rheolau etc.

I175Ymgynghori cyn gwneud rheolau etc.

1

Rhaid i GCC gydymffurfio â gofynion is-adran (2)—

a

cyn gwneud unrhyw reolau o dan y Ddeddf hon;

b

cyn cyhoeddi cod ymarfer o dan adran 112 (codau sy’n pennu’r safonau ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth weithwyr gofal cymdeithasol a’u cyflogwyr);

c

cyn cyhoeddi canllawiau o dan adran 162 (canllawiau i baneli addasrwydd i ymarfer a phaneli gorchmynion interim mewn cysylltiad ag achosion o dan Ran 6),

oni bai bod is-adran (3) yn gymwys.

2

Cyn gwneud y rheolau neu gyhoeddi’r cod neu ganllawiau rhaid i GCC

a

cyhoeddi drafft o’r rheolau, cod neu ganllawiau arfaethedig yn ogystal ag—

i

esboniad o ddiben y rheolau, cod neu ganllawiau arfaethedig a chrynodeb o effaith fwriadedig y rheolau, cod neu ganllawiau arfaethedig;

ii

hysbysiad sy’n pennu’r cyfnod ar gyfer caniatáu i sylwadau gael eu cyflwyno i GCC ynghylch y cynnig, a

b

cymryd camau rhesymol i roi hysbysiad o’r cynnig a’r cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau i—

i

gweithwyr gofal cymdeithasol y mae GCC yn meddwl y gall y cynnig effeithio arnynt,

ii

Gweinidogion Cymru, a

iii

unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn GCC.

3

Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw GCC

a

wedi ei fodloni bod natur y rheolau, cod neu ganllawiau arfaethedig o’r fath fel y byddai ymgynghori yn amhriodol neu’n anghymesur, a

b

wedi cael cytundeb Gweinidogion Cymru i fwrw ymlaen heb ymgynghori.

4

Nid yw adran 184 (cyflwyno dogfennau etc.) yn gymwys i unrhyw beth a wneir gan GCC o dan is-adran (2).