84“Wedi ei gymhwyso’n briodol”LL+C
At ddibenion adran 83 mae person wedi ei gymhwyso’n briodol—
(a)os yw’r ymgeisydd, yn achos cais i gofrestru fel gweithiwr cymdeithasol—
(i)wedi cwblhau’n llwyddiannus gwrs a gymeradwywyd gan GCC o dan adran 114 ar gyfer personau sy’n dymuno dod yn weithwyr cymdeithasol,
(ii)yn bodloni gofynion adran 85 (cymwysterau a geir y tu allan i Gymru [F1 – gweithwyr cymdeithasol ]), neu
(iii)yn bodloni unrhyw ofynion o ran hyfforddiant y caiff GCC eu gosod drwy reolau;
[F2(aa)os yw'r ymgeisydd, yn achos cais i gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol—
(i)wedi cwblhau'n llwyddiannus gwrs a gymeradwywyd gan GCC o dan adran 114 ar gyfer personau sy'n dymuno dod yn rheolwyr gofal cymdeithasol,
F3(ii). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(iii)yn bodloni unrhyw ofynion o ran hyfforddiant y caiff GCC drwy reolau eu gosod mewn perthynas â rheolwyr gofal cymdeithasol;]
(b)os yw’r ymgeisydd, yn achos ymgeisydd sy’n gwneud cais i gofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol o unrhyw ddisgrifiad arall—
(i)wedi cwblhau’n llwyddiannus gwrs a gymeradwywyd gan GCC o dan adran 114 ar gyfer personau sy’n dymuno dod yn weithiwr gofal cymdeithasol o’r disgrifiad hwnnw, neu
(ii)sy’n bodloni unrhyw ofynion o ran hyfforddiant y caiff GCC drwy reolau eu gosod mewn perthynas â gweithwyr gofal cymdeithasol o’r disgrifiad hwnnw.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 84(a)(ii) wedi eu mewnosod (3.4.2017) gan The European Qualifications (Health and Social Care Professions) Regulations 2016 (O.S. 2016/1030), rhlau. 1, 129(2) (ynghyd â rhl. 155)
F2A. 84(aa) wedi ei fewnosod (3.4.2017) gan The European Qualifications (Health and Social Care Professions) Regulations 2016 (O.S. 2016/1030), rhlau. 1, 129(3) (ynghyd â rhl. 155)
F3A. 84(aa)(ii) wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/761), rhlau. 1(2), 6 (ynghyd â rhlau. 15A-19) (as diwygio gan O.S. 2020/1626, rhlau. 1(2), 6-13); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 84 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 84 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)