Valid from 03/04/2017
89Hysbysiad o benderfyniadau mewn cysylltiad â chofrestru neu adnewydduLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo’r cofrestrydd yn penderfynu—
(a)caniatáu cais i gofrestru, neu
(b)caniatáu cais i adnewyddu cofrestriad.
(2)Rhaid i’r cofrestrydd roi hysbysiad o’r penderfyniad i’r person y mae’r cais yn ymwneud ag ef.
(3)Mae is-adran (4) yn gymwys pan fo’r cofrestrydd yn penderfynu—
(a)gwrthod cais i gofrestru, neu
(b)gwrthod cais i adnewyddu cofrestriad person.
(4)Rhaid i’r cofrestrydd roi i’r person y mae’r penderfyniad yn ymwneud ag ef hysbysiad—
(a)o’r penderfyniad,
(b)o’r rhesymau dros y penderfyniad, ac
(c)o’r hawl i apelio o dan adran 101.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 89 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)