Print Options
PrintThe Whole
Act
PrintThe Whole
Part
PrintThe Whole
Cross Heading
PrintThis
Section
only
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 03/04/2017.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, Adran 94.
Changes to Legislation
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
94Cofnodion sy’n seiliedig ar wybodaeth anwir neu gamarweiniolLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Os yw’r cofrestrydd wedi ei fodloni bod cofnod mewn rhan o’r gofrestr, neu fod anodiad i gofnod, wedi ei gynnwys ar y gofrestr ar sail gwybodaeth anwir neu gamarweiniol, caiff y cofrestrydd ddileu’r cofnod neu’r anodiad o’r gofrestr.
(2)Mae is-adran (3) yn gymwys pan fo’r cofrestrydd yn meddwl—
(a)y gall cofnod, neu anodiad i gofnod, yn y gofrestr fod wedi ei gynnwys ar y gofrestr ar sail gwybodaeth anwir neu gamarweiniol,
(b)y gall fod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer, ac
(c)y gall fod angen gorchymyn interim er mwyn amddiffyn y cyhoedd.
(3)Caiff y cofrestrydd atgyfeirio’r mater i banel gorchmynion interim.
(4)Pan fo’r cofrestrydd yn penderfynu dileu cofnod mewn cysylltiad â pherson o’r gofrestr o dan yr adran hon, rhaid i’r cofrestrydd roi hysbysiad i’r person—
(a)o’r penderfyniad,
(b)o’r rhesymau dros y penderfyniad, ac
(c)o’r hawl i apelio a roddir gan adran 101.
Back to top