96Pŵer i adfer cofnod ar gofrestrLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo cofnod wedi ei ddileu o’r gofrestr o dan—
(a)adran 92 (dileu drwy gytundeb);
(b)adran 94 (cofnodion sy’n seiliedig ar wybodaeth anwir neu gamarweiniol).
(2)Caiff y cofrestrydd, ar gais y person yr oedd y cofnod yn ymwneud ag ef, adfer y cofnod i’r gofrestr.
(3)Ni chaiff y cofrestrydd ganiatáu cais i adfer o dan yr adran hon ond os yw wedi ei fodloni bod yr ymgeisydd yn bodloni’r gofynion cofrestru a bennir yn adran 83(2).
(4)Rhaid i’r cofrestrydd roi hysbysiad i’r ymgeisydd o ran a yw ei gais wedi ei ganiatáu.
(5)Os nad yw’r cais i adfer wedi ei ganiatáu rhaid i’r cofrestrydd hefyd roi i’r ymgeisydd hysbysiad—
(a)o’r rhesymau dros y penderfyniad, a
(b)o unrhyw hawl i apelio mewn cysylltiad â’r penderfyniad.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 96 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 96 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)