xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CGWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL

Adfer cofnod i’r gofrestrLL+C

98Achosion adferLL+C

(1)Pan fo’r cofrestrydd wedi atgyfeirio cais i adfer cofnod person (“P”) i ran o’r gofrestr i banel apelau cofrestru o dan adran 97(4), rhaid i’r panel—

(a)dyfarnu bod y cofnod mewn cysylltiad â P i gael ei adfer i’r rhan berthnasol o’r gofrestr, neu

(b)dyfarnu na chaniateir i’r cofnod mewn cysylltiad â P gael ei adfer i’r rhan honno o’r gofrestr.

(2)Rhaid i’r cofrestrydd roi hysbysiad i P o ddyfarniad y panel.

(3)Os yw’r panel yn gwneud dyfarniad o dan is-adran (1)(b) rhaid i’r cofrestrydd hefyd roi hysbysiad i P—

(a)o’i resymau dros wneud y dyfarniad, a

(b)o unrhyw hawl i apelio mewn cysylltiad â’r dyfarniad.

(4)Os yw—

(a)P wedi gwneud dau neu ragor o geisiadau o dan adran 97(2) i adfer i’r un rhan o’r gofrestr, a

(b)panel apelau cofrestru yn gwrthod, ar yr ail gais neu unrhyw gais dilynol, adfer i’r rhan honno o’r gofrestr o dan is-adran (1)(b),

caiff y panel gyfarwyddo na chaiff P wneud ceisiadau pellach o dan adran 97(2) i adfer i’r rhan honno o’r gofrestr.

(5)Os yw’r panel apelau cofrestru yn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (4), rhaid i’r cofrestrydd roi hysbysiad i P—

(a)o’r cyfarwyddyd hwnnw, a

(b)o hawl P i apelio o dan adran 104.

(6)Os yw panel apelau cofrestru yn gwneud dyfarniad o dan is-adran (1)(a) rhaid i’r panel gyfarwyddo’r cofrestrydd i adfer cofnod P i’r gofrestr.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 98 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 98 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)