Adran 49 – Gofyniad i gael cyngor ynghylch cynigion i wneud rheoliadau
200.Mae’r adran hon yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru, cyn i unrhyw reoliadau cadarnhaol drafft gael eu gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 48, ofyn am gyngor gan y corff cynghori (gweler adran 44) ynghylch y cynnig i wneud y rheoliadau, ac ystyried y cyngor hwnnw hefyd.
201.Mae is-adrannau (2) i (4) yn ei gwneud yn ofynnol, pan fo Gweinidogion Cymru yn gofyn am gyngor gan y corff cynghori, iddynt bennu cyfnod rhesymol ar gyfer darparu’r cyngor. Rhaid i’r corff cynghori ddarparu’r cyngor o fewn y cyfnod hwnnw a nodi’r rhesymau dros y cyngor.
202.Mae is-adran (5) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi unrhyw gyngor a gânt gan y corff cynghori cyn cynted ag sy’n rhesymol ymarferol ar ôl ei gael.
203.Mae is-adran (6) yn darparu, os yw’r rheoliadau cadarnhaol drafft a osodir gerbron y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 48(3) yn wahanol i’r hyn a argymhellwyd gan y corff cynghori, bod rhaid i Weinidogion Cymru osod datganiad gerbron y Cynulliad Cenedlaethol yn egluro paham y mae’r rheoliadau’n wahanol.
204.Mae is-adran (7) yn darparu nad oes angen i Weinidogion Cymru ofyn am gyngor gan y corff cynghori cyn gosod rheoliadau drafft sydd naill ai’n sefydlu corff newydd fel y corff cynghori neu’n dynodi person i fod yn gorff cynghori.