Nodiadau Esboniadol i Deddf Yr Amgylchedd (Cymru) 2016 Nodiadau Esboniadol

Adran 66 – Gwahardd gwaredu gwastraff bwyd i garthffos

257.Mae adran 34 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 yn gosod dyletswydd gofal eang ar unrhyw berson sy’n mewnforio, yn cynhyrchu, yn cario, yn cadw, yn trin neu’n gwaredu gwastraff a reolir, neu sydd â rheolaeth dros wastraff o’r fath, fel deliwr neu frocer, i fabwysiadu pob mesur rhesymol i atal, ymysg pethau eraill, unrhyw achos anghyfreithlon o waredu gwastraff gan berson arall, neu unrhyw achos o fynd yn groes i Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2010.

258.Mae adran 66 yn mewnosod adran 34D yn Neddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, sy’n gwahardd gwaredu gwastraff bwyd i garthffos gyhoeddus o fangreoedd annomestig yng Nghymru, yn is-adran (1). O dan y gwaharddiad, ni ddylai’r sawl sy’n meddiannu unrhyw fangre annomestig waredu gwastraff bwyd i garthffos gyhoeddus nac i unrhyw ddraen sy’n gollwng i garthffos gyhoeddus. Mae mangreoedd annomestig yn cynnwys mangreoedd busnes a’r sector cyhoeddus, ond nid ydynt yn cynnwys tai preifat, er enghraifft. Mae gweithredu is-adran (1) yn ddarostyngedig i bŵer Gweinidogion Cymru, yn is-adran (6)(a), i bennu’r amgylchiadau pan fo is-adran (1) yn gymwys mewn rheoliadau. Mae’r pŵer hwn, ar y cyd â’r pŵer cyffredinol i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol yn is-adran (7), yn caniatáu i Weinidogion Cymru ystyried yr amrywiaeth eang o fangreoedd ac amgylchiadau pan fydd y gwaharddiad ar waredu gwastraff bwyd yn gymwys.

259.Mae is-adran (2) yn amlinellu eithriadau i’r gwaharddiad yn is-adran (1). Mae meddianwyr mangreoedd domestig a charafanau wedi’u heithrio. Mae is-adran (2) yn ddarostyngedig i bŵer Gweinidogion Cymru yn is-adran (6)(b), ar y cyd â’r pŵer yn is-adran (7), i wneud rheoliadau sy’n darparu bod is-adran (1) yn gymwys yn ddarostyngedig i eithriadau sy’n ychwanegol at y rheini yn is-adran (2). Fel yn achos y pŵer yn is-adran (6)(a), bydd hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru i ystyried y modd y mae amgylchiadau a pholisi’r llywodraeth yn newid.

260.Diffinnir gwastraff bwyd yn is-adran (5). Mae is-adran (6)(c) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio’r diffiniad o wastraff bwyd.

261.Mae is-adran (3) o adran 34D yn darparu y bydd methu â chydymffurfio â’r gwaharddiad yn is-adran (1) heb esgus rhesymol yn drosedd, ac yn rhinwedd is-adran (4), gellir gwrando trosedd o’r fath yn ddiannod yn Llys yr Ynadon neu ar dditiad yn Llys y Goron. Os bydd y person sy’n cyflawni’r drosedd yn cael ei gollfarnu, bydd yn atebol i dalu dirwy ddiderfyn.

262.Mae adran 66(2) o’r Ddeddf yn gwneud diwygiad canlyniadol sy’n egluro nad yw cydsyniad elifion masnach a ddyroddir i feddiannydd gan yr ymgymerwyr carthffosiaeth o dan Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 yn drech na’r gwaharddiad yn adran 34D ar waredu gwastraff bwyd i garthffos. Mae’n sicrhau y gall unrhyw beth sydd wedi ei eithrio o’r gwaharddiad yn adran 34D gan reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru gael ei reoleiddio gan y drefn elifion masnach.

Back to top