RHAN 1RHEOLI CYNALIADWY AR ADNODDAU NATURIOL
Gweithredu’r polisi cenedlaethol ar sail ardaloedd
I110Ystyr corff cyhoeddus yn adrannau 11 i 15
1
Yn adrannau 11 i 15, ystyr “corff cyhoeddus” yw unrhyw un o’r canlynol—
a
cyngor sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru;
b
Bwrdd Iechyd Lleol;
c
yr Ymddiriedolaethau GIG a ganlyn—
i
Iechyd Cyhoeddus Cymru;
ii
Felindre;
d
awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
e
awdurdod tân ac achub yng Nghymru;
f
Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru;
g
Cyngor Celfyddydau Cymru;
h
Cyngor Chwaraeon Cymru;
i
Llyfrgell Genedlaethol Cymru;
j
Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
2
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (1) drwy reoliadau drwy—
a
ychwanegu person,
b
tynnu person ymaith, neu
c
diwygio disgrifiad o berson.
3
Ond ni chaiff y rheoliadau—
a
ond diwygio is-adran (1) drwy ychwanegu person os yw’r person hwnnw’n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus;
b
ond diwygio’r is-adran honno drwy ychwanegu un neu ragor o Weinidogion y Goron os yw’r Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio.
4
Os yw’r rheoliadau’n diwygio is-adran (1) er mwyn ychwanegu person sydd â swyddogaethau o natur gyhoeddus a swyddogaethau eraill, nid yw adrannau 11 i 15 ond yn gymwys i’r person hwnnw mewn perthynas â swyddogaethau’r person hwnnw sydd o natur gyhoeddus.
5
Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—
a
CNC,
b
pob person y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu ei ychwanegu neu ei dynnu ymaith drwy’r rheoliadau, ac
c
y personau eraill hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.
I211Datganiadau ardal
1
Rhaid i CNC baratoi a chyhoeddi datganiadau (“datganiadau ardal”) ar gyfer yr ardaloedd o Gymru y mae CNC yn ystyried eu bod yn briodol at ddiben hwyluso gweithrediad y polisi adnoddau naturiol cenedlaethol.
2
Caiff CNC ddefnyddio’r datganiadau ardal at unrhyw ddiben arall wrth arfer ei swyddogaethau.
3
Rhaid i bob datganiad ardal—
a
egluro pam y paratowyd datganiad ar gyfer yr ardal, drwy gyfeirio at—
i
yr adnoddau naturiol yn yr ardal,
ii
y manteision y mae’r adnoddau naturiol yn eu cynnig, a
iii
y blaenoriaethau, y risgiau a’r cyfleoedd ar gyfer rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol y mae angen ymdrin â hwy;
b
egluro sut y mae egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol wedi eu cymhwyso wrth baratoi’r datganiad;
c
datgan sut y mae CNC yn bwriadu ymdrin â’r blaenoriaethau, y risgiau a’r cyfleoedd, a sut y mae’n bwriadu cymhwyso egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol wrth wneud hynny;
d
pennu’r cyrff cyhoeddus y mae CNC yn ystyried y gallant gynorthwyo i ymdrin â’r blaenoriaethau, y risgiau a’r cyfleoedd.
4
Rhaid i CNC sicrhau bod pob rhan o Gymru yn cael ei chynnwys yn o leiaf un o’r ardaloedd y mae’n paratoi datganiad ardal ar eu cyfer.
5
Rhaid i CNC—
a
cymryd pob cam rhesymol er mwyn gweithredu datganiad ardal, a
b
annog eraill i gymryd camau o’r fath.
6
Rhaid i CNC adolygu datganiadau ardal yn gyson a chaiff eu diwygio ar unrhyw adeg.
7
Cyn cyhoeddi datganiad ardal, rhaid i CNC ystyried a ddylid—
a
ymgorffori cynllun, strategaeth neu ddogfen debyg arall yn y datganiad ardal, neu
b
ymgorffori’r datganiad ardal mewn cynllun, strategaeth neu ddogfen debyg arall.
I312Cyfarwyddydau Gweinidogion Cymru i weithredu datganiadau ardal
1
Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo corff cyhoeddus i gymryd y camau hynny y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn rhesymol ymarferol er mwyn ymdrin â’r materion a bennir mewn datganiad ardal o dan adran 11(3).
2
Cyn rhoi cyfarwyddyd rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r corff cyhoeddus y maent yn bwriadu ei gyfarwyddo.
3
Pan roddir cyfarwyddyd i gorff cyhoeddus o dan yr adran hon, rhaid i’r corff gydymffurfio ag ef.
4
Ni chaiff cyfarwyddyd o dan yr adran hon ei gwneud yn ofynnol i gorff cyhoeddus wneud rhywbeth na chaniateir iddo ei wneud fel arall wrth arfer ei swyddogaethau.
5
Mewn perthynas â chyfarwyddyd o dan yr adran hon—
a
rhaid iddo gael ei gyhoeddi;
b
caniateir ei amrywio neu ei ddirymu gan gyfarwyddyd diweddarach;
c
mae’n orfodadwy drwy orchymyn gorfodi ar gais gan Weinidogion Cymru, neu ar eu rhan.
I413Canllawiau ynghylch gweithredu datganiadau ardal
1
Wrth arfer ei swyddogaethau, rhaid i gorff cyhoeddus roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir iddo gan Weinidogion Cymru ynghylch camau y dylid eu cymryd i ymdrin â’r materion a bennir mewn datganiad ardal o dan adran 11(3).
2
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw ganllawiau y maent yn eu rhoi at ddibenion yr adran hon.
I514Dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i ddarparu gwybodaeth neu gymorth arall i CNC
1
Os yw CNC yn gofyn i gorff cyhoeddus ddarparu gwybodaeth i CNC sy’n ofynnol ganddo at ddiben arfer swyddogaethau o dan adran 8 neu 11, rhaid i’r corff cyhoeddus ddarparu’r wybodaeth oni bai bod y corff cyhoeddus wedi ei wahardd rhag ei darparu yn rhinwedd deddfiad neu unrhyw reol gyfreithiol arall.
2
Os yw CNC yn gofyn i gorff cyhoeddus arfer ei swyddogaethau i ddarparu cymorth arall i CNC sy’n ofynnol gan CNC at ddiben arfer swyddogaethau o dan adran 8 neu 11, rhaid i’r corff cyhoeddus ddarparu’r cymorth oni bai bod y corff cyhoeddus yn ystyried y byddai gwneud hynny—
a
yn anghydnaws â dyletswyddau’r corff cyhoeddus ei hun, neu
b
yn cael effaith andwyol fel arall ar arfer swyddogaethau’r corff cyhoeddus.
3
Mae’r dyletswyddau ar gorff cyhoeddus yn is-adrannau (1) a (2) hefyd yn ddyletswyddau ar Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, ond nid ydynt ond yn gymwys i’r Comisiynydd os yw’r wybodaeth neu gymorth arall yn ofynnol er mwyn cynhyrchu adroddiad o dan adran 8 ar gyflwr adnoddau naturiol.
I615Dyletswydd ar CNC i ddarparu gwybodaeth neu gymorth arall i gyrff cyhoeddus
1
Os yw corff cyhoeddus yn gofyn i CNC ddarparu gwybodaeth i’r corff cyhoeddus sy’n ofynnol ganddo at ddiben gweithredu datganiad ardal, rhaid i CNC ddarparu’r wybodaeth oni bai bod CNC wedi ei wahardd rhag ei darparu yn rhinwedd deddfiad neu unrhyw reol gyfreithiol arall.
2
Os yw corff cyhoeddus yn gofyn i CNC arfer ei swyddogaethau i ddarparu cymorth arall i’r corff cyhoeddus sy’n ofynnol gan y corff cyhoeddus at ddiben gweithredu datganiad ardal, rhaid i CNC ddarparu’r cymorth oni bai bod CNC yn ystyried y byddai gwneud hynny—
a
yn anghydnaws â dyletswyddau CNC ei hun, neu
b
yn cael effaith andwyol fel arall ar arfer swyddogaethau CNC.