RHAN 1RHEOLI CYNALIADWY AR ADNODDAU NATURIOL
Rhagarweiniad
I11Diben y Rhan hon
Diben y Rhan hon yw hyrwyddo rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol.
I22Adnoddau naturiol
Yn y Rhan hon, mae “adnoddau naturiol” yn cynnwys y canlynol (ond nid yw wedi ei gyfyngu iddynt)—
a
anifeiliaid, planhigion ac organeddau eraill;
b
yr aer, dŵr a phridd;
c
mwynau;
d
nodweddion a phrosesau daearegol;
e
nodweddion ffisiograffigol;
f
nodweddion a phrosesau hinsoddol.
I33Rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol
1
Yn y Rhan hon, ystyr “rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol” yw—
a
defnyddio adnoddau naturiol mewn modd ac ar gyfradd sy’n hyrwyddo cyflawni’r amcan yn is-adran (2),
b
cymryd camau eraill sy’n hyrwyddo cyflawni’r amcan hwnnw, ac
c
peidio â chymryd camau sy’n llesteirio cyflawni’r amcan hwnnw.
2
Yr amcan yw cynnal a gwella cydnerthedd ecosystemau a’r manteision a gynigir ganddynt ac, wrth wneud hynny—
a
diwallu anghenion y cenedlaethau presennol o bobl heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau, a
b
cyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant yn adran 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2).
I44Egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol
Yn y Rhan hon, “egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol” yw—
a
rheoli mewn modd ymaddasol, drwy gynllunio, monitro, adolygu a, phan fo hynny’n briodol, newid gweithredoedd;
b
ystyried y raddfa ofodol briodol ar gyfer gweithredu;
c
hyrwyddo cydweithio a chydweithredu, a chyfranogi ynddynt;
d
gwneud trefniadau priodol i’r cyhoedd gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau;
e
ystyried yr holl dystiolaeth berthnasol a chasglu tystiolaeth mewn perthynas â materion y ceir ansicrwydd yn eu cylch;
f
ystyried manteision a gwerth cynhenid adnoddau naturiol ac ecosystemau;
g
ystyried effeithiau tymor byr, tymor canolig a hirdymor gweithredoedd;
h
cymryd camau i atal niwed arwyddocaol i ecosystemau;
i
ystyried cydnerthedd ecosystemau ac yn benodol, yr agweddau a ganlyn—
i
amrywiaeth rhwng ecosystemau ac oddi fewn iddynt;
ii
y cysylltiadau rhwng ecosystemau ac oddi fewn iddynt;
iii
graddfa ecosystemau;
iv
cyflwr ecosystemau (gan gynnwys eu strwythur a’u gweithrediad);
v
gallu ecosystemau i addasu.