ATODLEN 1CODI TALIADAU AM FAGIAU SIOPA: SANCSIYNAU SIFIL

(cyflwynir gan adran 61)

I11Sancsiynau sifil

1

Caiff rheoliadau bagiau siopa wneud darpariaeth ynghylch sancsiynau sifil am dorri’r rheoliadau.

2

At ddibenion yr Atodlen hon, mae person yn torri rheoliadau bagiau siopa os yw’r person, o dan yr amgylchiadau hynny y gellir eu pennu—

a

yn methu â chydymffurfio â gofyniad a wneir gan y rheoliadau hyn neu oddi tanynt, neu

b

yn rhwystro gweinyddwr neu’n methu â rhoi cymorth iddo.

3

Yn yr Atodlen hon, ystyr “sancsiwn sifil” yw—

a

cosb ariannol benodedig, neu

b

gofyniad yn ôl disgresiwn.

Annotations:
Commencement Information
I1

Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

I22Cosbau ariannol penodedig

1

Caiff rheoliadau bagiau siopa roi’r pŵer i weinyddwr i osod, drwy hysbysiad, gosb ariannol benodedig ar berson sy’n torri’r rheoliadau.

2

Ni chaiff y rheoliadau ond rhoi pŵer o’r fath mewn perthynas ag achos pan fo’r gweinyddwr wedi ei fodloni yn ôl pwysau tebygolrwydd fod y toriad wedi digwydd.

3

At ddibenion yr Atodlen hon, ystyr “cosb ariannol benodedig” yw gofyniad i dalu cosb i weinyddwr o swm a bennir yn y rheoliadau neu a benderfynir yn unol â hwy.

4

Ni chaiff y rheoliadau ddarparu ar gyfer gosod cosb ariannol benodedig o fwy na £5,000.

Annotations:
Commencement Information
I2

Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

I33Cosbau ariannol penodedig: y weithdrefn

1

Rhaid i reoliadau bagiau siopa sy’n gwneud darpariaeth o dan baragraff 2 sicrhau—

a

pan fo gweinyddwr yn bwriadu gosod cosb ariannol benodedig ar berson, bod rhaid i’r gweinyddwr gyflwyno i’r person hwnnw hysbysiad o’r hyn a fwriedir (“hysbysiad o fwriad”) sy’n cydymffurfio ag is-baragraff (2),

b

bod yr hysbysiad o fwriad hefyd yn cynnig y cyfle i’r person ryddhau ei hun rhag atebolrwydd am y gosb ariannol benodedig drwy dalu swm penodedig (y mae’n rhaid iddo fod yn llai na swm y gosb neu’n gyfwerth ag ef),

c

os nad yw’r person yn rhyddhau ei hun rhag atebolrwydd yn y fath fodd—

i

y caiff y person wneud sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i’r gweinyddwr mewn perthynas â’r gosb ariannol benodedig y bwriedir ei gosod, a

ii

ar ddiwedd y cyfnod ar gyfer gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau bod rhaid i’r gweinyddwr benderfynu a yw am osod y gosb ariannol benodedig ai peidio,

d

pan fo’r gweinyddwr yn penderfynu gosod y gosb ariannol benodedig, bod yr hysbysiad sy’n ei gosod (“yr hysbysiad terfynol”) yn cydymffurfio ag is-baragraff (4), ac

e

y caiff y person y gosodir cosb ariannol benodedig arno apelio yn erbyn y penderfyniad i’w gosod.

2

Er mwyn cydymffurfio â’r is-baragraff hwn, rhaid i’r hysbysiad o fwriad gynnwys gwybodaeth o ran—

a

y seiliau dros y bwriad i osod y gosb ariannol benodedig,

b

effaith talu’r swm y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(b),

c

yr hawl i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau,

d

o dan ba amgylchiadau na chaiff y gweinyddwr osod y gosb ariannol benodedig,

e

o fewn pa gyfnod, na chaiff fod yn hwy na’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad o fwriad, y caniateir rhyddhau rhag atebolrwydd i’r gosb ariannol benodedig, ac

f

o fewn pa gyfnod, na chaiff fod yn hwy na’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad o fwriad, y caniateir gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau.

3

Rhaid i ddarpariaeth yn unol ag is-baragraff (1)(c)(ii) gynnwys darpariaeth ar gyfer yr amgylchiadau hynny pan all y gweinyddwr benderfynu peidio â gosod cosb ariannol benodedig.

4

Er mwyn cydymffurfio â’r is-baragraff hwn rhaid i’r hysbysiad terfynol y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(d) gynnwys gwybodaeth o ran—

a

y seiliau dros osod y gosb,

b

sut y gellir talu,

c

o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid talu,

d

unrhyw ddisgowntiau am dalu’n gynnar neu gosbau am dalu’n hwyr,

e

hawliau i apelio, ac

f

canlyniadau peidio â thalu.

5

Rhaid i ddarpariaeth yn unol ag is-baragraff (1)(e) sicrhau bod yr hyn y caiff person apelio yn erbyn penderfyniad gweinyddwr ar ei sail yn cynnwys y canlynol—

a

bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

b

bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

c

bod y penderfyniad yn un afresymol.

Annotations:
Commencement Information
I3

Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

I44Gofynion yn ôl disgresiwn

1

Caiff rheoliadau bagiau siopa roi’r pŵer i weinyddwr i osod, drwy hysbysiad, un gofyniad yn ôl disgresiwn neu ragor ar berson sy’n torri’r rheoliadau.

2

Ni chaiff y rheoliadau ond rhoi pŵer o’r fath mewn perthynas ag achos pan fo’r gweinyddwr wedi ei fodloni yn ôl pwysau tebygolrwydd bod y toriad wedi digwydd.

3

At ddibenion yr Atodlen hon, ystyr “gofyniad yn ôl disgresiwn” yw—

a

gofyniad i dalu i weinyddwr gosb ariannol o’r swm hwnnw y caiff y gweinyddwr benderfynu arno, neu

b

gofyniad i gymryd y camau hynny y caiff gweinyddwr eu pennu, o fewn y cyfnod hwnnw y caiff y gweinyddwr ei bennu, er mwyn sicrhau nad yw’r toriad yn parhau neu’n digwydd eto.

4

Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “cosb ariannol amrywiadwy” (“variable monetary penalty”) yw gofyniad y cyfeirir ato yn is-baragraff (3)(a), ac

  • ystyr “gofyniad yn ôl disgresiwn nad yw’n un ariannol” (“non-monetary discretionary requirement”) yw gofyniad y cyfeirir ato yn is-baragraff (3)(b).

5

Rhaid i reoliadau bagiau siopa, mewn perthynas â phob math o doriad o’r rheoliadau y caniateir gosod cosb ariannol amrywiadwy mewn perthynas ag ef—

a

pennu uchafswm y gosb y caniateir ei gosod am doriad o’r math hwnnw, neu

b

darparu i’r uchafswm hwnnw gael ei benderfynu yn unol â’r rheoliadau.

6

Ni chaiff y rheoliadau ganiatáu gosod gofynion yn ôl disgresiwn ar berson ar fwy nag un achlysur mewn perthynas â’r un weithred neu anwaith.

Annotations:
Commencement Information
I4

Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

I55Gofynion yn ôl disgresiwn: y weithdrefn

1

Rhaid i reoliadau bagiau siopa sy’n gwneud darpariaeth o dan baragraff 4 sicrhau—

a

pan fo gweinyddwr yn bwriadu gosod gofyniad yn ôl disgresiwn ar berson, bod rhaid i’r gweinyddwr gyflwyno i’r person hwnnw hysbysiad o’r hyn a fwriedir (“hysbysiad o fwriad”) sy’n cydymffurfio ag is-baragraff (2),

b

y caiff y person hwnnw wneud sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i’r gweinyddwr mewn perthynas â’r bwriad i osod y gofyniad yn ôl disgresiwn,

c

ar ôl diwedd y cyfnod ar gyfer gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau o’r fath, bod rhaid i’r gweinyddwr benderfynu a yw am—

i

gosod y gofyniad yn ôl disgresiwn, gydag addasiadau neu hebddynt, neu

ii

gosod unrhyw ofyniad yn ôl disgresiwn arall y mae gan y gweinyddwr bŵer i’w osod o dan baragraff 4,

d

pan fo’r gweinyddwr yn penderfynu gosod gofyniad yn ôl disgresiwn, bod yr hysbysiad sy’n ei osod (yr “hysbysiad terfynol”) yn cydymffurfio ag is-baragraff (4), ac

e

y caiff y person y gosodir gofyniad yn ôl disgresiwn arno apelio yn erbyn y penderfyniad i’w osod.

2

Er mwyn cydymffurfio â’r is-baragraff hwn, rhaid i’r hysbysiad o fwriad gynnwys gwybodaeth o ran—

a

y seiliau dros y cynnig i osod y gofyniad yn ôl disgresiwn,

b

yr hawl i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau,

c

o dan ba amgylchiadau na chaiff y gweinyddwr osod y gofyniad yn ôl disgresiwn,

d

o fewn pa gyfnod, na chaiff fod yn llai na’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y ceir yr hysbysiad o fwriad, y caniateir gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau.

3

Rhaid i ddarpariaeth yn unol ag is-baragraff (1)(c) gynnwys darpariaeth ar gyfer yr amgylchiadau hynny pan na chaniateir i’r gweinyddwr benderfynu gosod cosb ariannol benodedig.

4

Er mwyn cydymffurfio â’r is-baragraff hwn, rhaid i’r hysbysiad terfynol y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(d) gynnwys gwybodaeth o ran—

a

y seiliau dros osod y gofyniad yn ôl disgresiwn,

b

pan fo’r gofyniad yn ôl disgresiwn yn gosb ariannol amrywiadwy—

i

sut y gellir talu,

ii

o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid talu, a

iii

unrhyw ddisgowntiau am dalu’n gynnar neu gosbau am dalu’n hwyr,

c

hawliau i apelio, a

d

canlyniadau methu â chydymffurfio.

5

Rhaid i ddarpariaeth yn unol ag is-baragraff (1)(e) sicrhau bod yr hyn y caiff person apelio yn erbyn penderfyniad gweinyddwr ar ei sail yn cynnwys y canlynol—

a

bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

b

bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

c

yn achos cosb ariannol amrywiadwy, bod swm y gosb yn afresymol;

d

yn achos gofyniad yn ôl disgresiwn nad yw’n un ariannol, bod natur y gofyniad yn afresymol;

e

bod y penderfyniad yn un afresymol am unrhyw reswm arall.

Annotations:
Commencement Information
I5

Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

I66Gofynion yn ôl disgresiwn: gorfodi

1

Os yw rheoliadau bagiau siopa yn gwneud darpariaeth o dan baragraff 4, gallant roi’r pŵer i weinyddwr i’w gwneud yn ofynnol i berson dalu cosb ariannol (“cosb am beidio â chydymffurfio”) i’r gweinyddwr os yw’r person yn methu â chydymffurfio â gofyniad yn ôl disgresiwn nad yw’n un ariannol a osodir ar y person hwnnw.

2

Caiff y rheoliadau—

a

pennu swm y gosb am beidio â chydymffurfio neu ddarparu i’r swm hwnnw gael ei benderfynu yn unol â’r rheoliadau, neu

b

darparu i’r swm gael ei benderfynu gan y gweinyddwr neu mewn rhyw fodd arall.

3

Os yw rheoliadau bagiau siopa yn gwneud darpariaeth o fewn is-baragraff (2)(b), rhaid iddynt, mewn perthynas â phob math o fethiant y caniateir gosod cosb am beidio â chydymffurfio mewn perthynas ag ef—

a

pennu uchafswm y gosb yn caniateir ei gosod am fethiant o’r math hwnnw, neu

b

darparu i’r uchafswm hwnnw gael ei benderfynu yn unol â’r rheoliadau.

4

Rhaid i reoliadau bagiau siopa sy’n gwneud darpariaeth o dan is-baragraff (1) sicrhau—

a

bod y gosb am beidio â chydymffurfio yn cael ei gosod drwy hysbysiad a gyflwynir gan y gweinyddwr, a

b

y caiff y person y gosodir y gosb am beidio â chydymffurfio arno apelio yn erbyn yr hysbysiad hwnnw.

5

Rhaid i ddarpariaeth yn unol â pharagraff (b) o is-baragraff (4) sicrhau bod yr hyn y caiff person apelio yn erbyn penderfyniad gweinyddwr ar ei sail yn cynnwys y canlynol—

a

bod y penderfyniad i gyflwyno’r hysbysiad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

b

bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

c

bod y penderfyniad yn annheg neu’n afresymol am unrhyw reswm (gan gynnwys, mewn achos pan fo swm y gosb am beidio â chydymffurfio wedi ei benderfynu gan y gweinyddwr, bod y swm yn afresymol).

Annotations:
Commencement Information
I6

Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

I77Cyfuniad o sancsiynau

1

Ni chaiff rheoliadau bagiau siopa wneud darpariaeth o dan baragraffau 2 a 4 sy’n rhoi pwerau i weinyddwr mewn perthynas â’r un math o doriad o’r rheoliadau oni chydymffurfir â’r gofynion a ganlyn.

2

Rhaid i’r rheoliadau sicrhau na chaiff y gweinyddwr gyflwyno hysbysiad o fwriad y cyfeirir ato ym mharagraff 3(1)(a) i berson mewn perthynas â thoriad pan fo gofyniad yn ôl disgresiwn wedi ei osod ar y person hwnnw mewn perthynas â’r un toriad.

3

Rhaid i’r rheoliadau sicrhau na chaiff y gweinyddwr gyflwyno hysbysiad o fwriad y cyfeirir ato ym mharagraff 5(1)(a) i berson mewn perthynas â thoriad pan fo—

a

cosb ariannol benodedig wedi ei gosod ar y person hwnnw mewn perthynas â’r un toriad, neu

b

y person wedi rhyddhau ei hun rhag atebolrwydd i gosb ariannol benodedig mewn perthynas â’r toriad hwnnw yn unol â pharagraff 3(1)(b).

Annotations:
Commencement Information
I7

Atod. 1 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

I88Cosbau ariannol

1

Os yw rheoliadau bagiau siopa yn rhoi pŵer i weinyddwr i’w gwneud yn ofynnol i berson dalu cosb ariannol benodedig, cosb ariannol amrywiadwy neu gosb am beidio â chydymffurfio, gallant gynnwys darpariaeth—

a

ar gyfer disgowntiau am dalu’n gynnar;

b

ar gyfer talu llog neu gosbau ariannol eraill am dalu’r gosb yn hwyr, y llog hwnnw neu’r cosbau ariannol eraill hynny nad ydynt gyda’i gilydd i fod yn fwy na swm y gosb honno;

c

ar gyfer gorfodi’r gosb.

2

Caiff darpariaeth o dan is-baragraff (1)(c) gynnwys—

a

darpariaeth i’r gweinyddwr adennill cosb, ac unrhyw log neu gosb ariannol arall am dalu’n hwyr, fel dyled sifil;

b

darpariaeth i’r gosb, ac unrhyw log neu gosb ariannol arall am dalu’n hwyr fod yn adenilladwy, ar orchymyn gan lys, fel pe bai’n daladwy o dan orchymyn llys.

Annotations:
Commencement Information
I8

Atod. 1 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

I99Adennill costau

1

Os yw rheoliadau bagiau siopa yn gwneud darpariaeth o dan baragraff 4, gallant roi’r pŵer i weinyddwr i’w gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, i berson y gosodir gofyniad yn ôl disgresiwn arno i dalu’r costau yr aed iddynt gan y gweinyddwr mewn perthynas â gosod y gofyniad yn ôl disgresiwn hyd at amser ei osod.

2

Yn is-baragraff (1), mae’r cyfeiriad at gostau yn cynnwys (ymysg pethau eraill)—

a

costau ymchwilio;

b

costau gweinyddu;

c

costau cael cyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol).

3

Rhaid i reoliadau bagiau siopa sy’n gwneud darpariaeth o dan y paragraff hwn sicrhau, mewn unrhyw achos pan gyflwynir hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol talu costau—

a

bod yr hysbysiad yn pennu’r swm y mae’n ofynnol ei dalu;

b

y gallai fod yn ofynnol i’r gweinyddwr ddarparu dadansoddiad manwl o’r swm hwnnw;

c

nad yw’r person y mae’n ofynnol iddo dalu costau yn atebol i dalu unrhyw gostau y mae’r person hwnnw’n dangos yr aed iddynt yn ddiangen;

d

y caiff y person y mae’n ofynnol iddo dalu costau apelio yn erbyn—

i

penderfyniad y gweinyddwr i osod y gofyniad i dalu costau;

ii

penderfyniad y gweinyddwr o ran swm y costau hynny.

4

Caiff darpariaeth o dan y paragraff hwn gynnwys y ddarpariaeth y cyfeirir ati ym mharagraff 8(1)(b) ac (c) a (2).

Annotations:
Commencement Information
I9

Atod. 1 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

I1010Apelau

1

Ni chaiff rheoliadau bagiau siopa ddarparu ar gyfer gwneud apêl ac eithrio i’r canlynol—

a

y Tribiwnlys Haen Gyntaf, neu

b

tribiwnlys arall a grëir o dan ddeddfiad.

2

Yn is-baragraff (1)(b), nid yw “tribiwnlys” yn cynnwys llys barn arferol.

3

Os yw’r rheoliadau’n gwneud darpariaeth ar gyfer apêl mewn perthynas â gosod unrhyw ofyniad neu gyflwyno unrhyw hysbysiad, cânt gynnwys—

a

darpariaeth sy’n atal dros dro y gofyniad neu’r hysbysiad tra disgwylir dyfarniad yr apêl;

b

darpariaeth ynghylch pwerau’r tribiwnlys y gwneir yr apêl iddo;

c

darpariaeth ynghylch sut y mae unrhyw swm sy’n daladwy yn unol â phenderfyniad y tribiwnlys hwnnw i gael ei adennill.

4

Mae’r ddarpariaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (3)(b) yn cynnwys darpariaeth sy’n rhoi i’r tribiwnlys y gwneir yr apêl iddo y pŵer i wneud y canlynol—

a

tynnu’r gofyniad neu’r hysbysiad yn ôl;

b

cadarnhau’r gofyniad neu’r hysbysiad;

c

cymryd y camau hynny y gallai’r gweinyddwr eu cymryd mewn perthynas â’r weithred neu’r anwaith a roes fod i’r gofyniad neu’r hysbysiad;

d

dychwelyd y penderfyniad ai cadarnhau’r gofyniad neu’r hysbysiad ai peidio, neu unrhyw fater sy’n ymwneud â’r penderfyniad hwnnw, yn ôl at y gweinyddwr;

e

dyfarnu costau.

Annotations:
Commencement Information
I10

Atod. 1 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

I1111Cyhoeddusrwydd ar gyfer gosod sancsiynau sifil

1

Caiff rheoliadau bagiau siopa roi’r pŵer i weinyddwr roi hysbysiad cyhoeddusrwydd i berson y gosodwyd sancsiwn sifil arno yn unol â’r rheoliadau.

2

Ystyr “hysbysiad cyhoeddusrwydd” yw hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person roi cyhoeddusrwydd i—

a

y ffaith y gosodwyd y sancsiwn sifil, a

b

yr wybodaeth arall honno a all gael ei phennu yn y rheoliadau,

yn y dull hwnnw a all gael ei bennu yn yr hysbysiad.

3

Caiff y rheoliadau ddarparu bod hysbysiad cyhoeddusrwydd—

a

yn pennu’r amser ar gyfer cydymffurfio â’r hysbysiad, a

b

yn ei gwneud yn ofynnol i’r person y rhoddir yr hysbysiad iddo ddarparu tystiolaeth o gydymffurfio i weinyddwr o fewn yr amser hwnnw y caniateir ei bennu yn yr hysbysiad.

4

Caiff y rheoliadau ddarparu, os yw person yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cyhoeddusrwydd, y caiff gweinyddwr—

a

rhoi cyhoeddusrwydd i’r wybodaeth y mae’n ofynnol rhoi cyhoeddusrwydd iddi gan yr hysbysiad, a

b

adennill y costau o wneud hynny oddi wrth y person hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I11

Atod. 1 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

I1212Personau sy’n atebol i sancsiynau sifil

1

Caiff rheoliadau bagiau siopa wneud darpariaeth ynghylch y personau sy’n atebol i sancsiynau sifil o dan y rheoliadau.

2

Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud yn rhinwedd y paragraff hwn yn cynnwys darpariaeth—

a

i swyddogion corff corfforaethol fod yn atebol yn y modd hwnnw yn ogystal â’r corff corfforaethol ei hun, a

b

i’r partneriaid o fewn partneriaeth fod yn atebol yn ogystal â’r bartneriaeth ei hun,

o dan yr amgylchiadau hynny a all gael eu pennu.

Annotations:
Commencement Information
I12

Atod. 1 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

I1313Canllawiau ynghylch defnyddio pwerau i osod sancsiynau sifil ac adennill costau

1

Pan fo rheoliadau bagiau siopa yn rhoi’r pŵer i weinyddwr osod sancsiwn sifil mewn perthynas â thoriad o’r rheoliadau, rhaid iddynt sicrhau—

a

bod rhaid i’r gweinyddwr gyhoeddi canllawiau ynghylch defnydd y gweinyddwr o’r sancsiwn sifil,

b

bod rhaid i’r canllawiau gynnwys yr wybodaeth berthnasol,

c

bod rhaid i’r gweinyddwr ddiwygio’r canllawiau pan fo’n briodol,

d

bod rhaid i’r gweinyddwr ymgynghori â’r personau hynny y caiff y rheoliadau eu pennu cyn cyhoeddi unrhyw ganllawiau neu ganllawiau diwygiedig, ac

e

bod rhaid i’r gweinyddwr roi sylw i’r canllawiau neu’r canllawiau diwygiedig wrth arfer swyddogaethau’r gweinyddwr.

2

Yn achos canllawiau sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig, yr wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati yn is-baragraff (1)(b) yw gwybodaeth ynghylch—

a

o dan ba amgylchiadau y mae’r gosb yn debygol o gael ei gosod,

b

o dan ba amgylchiadau na chaniateir ei gosod,

c

swm y gosb,

d

sut y gall atebolrwydd am y gosb gael ei ryddhau ac effaith rhyddhad, ac

e

hawliau i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau a hawliau i apelio.

3

Yn achos canllawiau sy’n ymwneud â gofyniad yn ôl disgresiwn, yr wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati yn is-baragraff (1)(b) yw gwybodaeth ynghylch—

a

o dan ba amgylchiadau y mae’r gofyniad yn debygol o gael ei osod,

b

o dan ba amgylchiadau na chaniateir ei osod,

c

yn achos cosb ariannol amrywiadwy, y materion y mae’r gweinyddwr yn debygol o’u hystyried wrth ddyfarnu swm y gosb (gan gynnwys, pan fo’n berthnasol, unrhyw ddisgowntiau am adrodd yn wirfoddol am beidio â chydymffurfio), a

d

hawliau i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau a hawliau i apelio.

4

Os yw rheoliadau bagiau siopa yn gwneud darpariaeth o dan baragraff 9, rhaid iddynt sicrhau ei bod yn ofynnol i’r gweinyddwr gyhoeddi canllawiau ynghylch sut y bydd y gweinyddwr yn arfer y pŵer a roddir gan y ddarpariaeth.

Annotations:
Commencement Information
I13

Atod. 1 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

I1414Cyhoeddi camau gorfodi

1

Pan fo rheoliadau bagiau siopa yn rhoi’r pŵer i weinyddwr osod sancsiwn sifil mewn perthynas â thoriad o’r rheoliadau, rhaid iddynt sicrhau bod rhaid i’r gweinyddwr gyhoeddi adroddiadau o bryd i’w gilydd sy’n pennu—

a

yr achosion y gosodwyd sancsiwn sifil ynddynt, a

b

pan fo’r sancsiwn sifil yn gosb ariannol benodedig, yr achosion y rhyddhawyd atebolrwydd rhag cosb ynddynt yn unol â pharagraff 3(1)(b).

2

Yn is-baragraff (1)(a), nid yw’r cyfeiriad at achosion y gosodwyd sancsiwn sifil ynddynt yn cynnwys achosion pan fo’r sancsiwn wedi ei osod ond wedi ei wrthdroi ar apêl.

3

Nid oes angen i’r rheoliadau sicrhau’r canlyniad yn is-adran (1) mewn achosion pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai’n amhriodol gwneud hynny.

Annotations:
Commencement Information
I14

Atod. 1 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

I1515Cydymffurfio ag egwyddorion rheoleiddiol

Ni chaiff rheoliadau bagiau siopa roi’r pŵer i weinyddwr osod sancsiwn sifil mewn perthynas â thoriad o’r rheoliadau oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y bydd y gweinyddwr yn gweithredu yn unol â’r egwyddorion—

a

y dylid cynnal gweithgareddau rheoleiddiol mewn modd tryloyw, atebol, cymesur a chyson;

b

y dylid targedu gweithgareddau rheoleiddiol yn unig ar achosion y mae angen gweithredu arnynt.

Annotations:
Commencement Information
I15

Atod. 1 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

I1616Adolygu

1

Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu gweithrediad unrhyw ddarpariaeth mewn rheoliadau bagiau siopa sy’n rhoi’r pŵer i weinyddwr osod sancsiwn sifil mewn perthynas â thoriad o’r rheoliadau.

2

Rhaid i’r adolygiad cyntaf ddigwydd cyn gynted ag sy’n ymarferol ar ôl 1 Hydref 2017; a rhaid i bob adolygiad dilynol ddigwydd cyn gynted ag sy’n ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y cynhaliwyd yr adolygiad blaenorol.

3

Rhaid i adolygiad o dan y paragraff hwn ystyried yn benodol a yw’r ddarpariaeth wedi cyflawni ei amcanion mewn modd effeithlon ac effeithiol.

4

Wrth gynnal adolygiad o dan y paragraff hwn, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

5

Rhaid i Weinidogion Cymru—

a

cyhoeddi canlyniadau adolygiad o dan y paragraff hwn, a

b

gosod copi o’r adolygiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Annotations:
Commencement Information
I16

Atod. 1 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

I1717Atal dros dro

1

Pan fo rheoliadau bagiau siopa yn rhoi’r pŵer i weinyddwr osod sancsiwn sifil mewn perthynas â thoriad o’r rheoliadau, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r gweinyddwr—

a

pan fo’r pŵer yn bŵer i osod cosb ariannol benodedig, i beidio â chyflwyno unrhyw hysbysiad o fwriad pellach y cyfeirir ato ym mharagraff 3(1)(a) mewn perthynas â thoriad o’r math hwnnw, a

b

pan fo’r pŵer yn bŵer i osod gofyniad yn ôl disgresiwn, i beidio â chyflwyno unrhyw hysbysiad o fwriad pellach y cyfeirir ato ym mharagraff 5(1)(a) mewn perthynas â thoriad o’r math hwnnw.

2

Ni chaiff Gweinidogion Cymru ond rhoi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (1) mewn perthynas â thoriad o’r rheoliadau bagiau siopa os ydynt wedi eu bodloni bod y gweinyddwr wedi methu â gwneud y canlynol ar fwy nag un achlysur—

a

cydymffurfio ag unrhyw ddyletswydd a osodir arno o dan yr Atodlen hon, neu yn rhinwedd yr Atodlen hon, mewn perthynas a thoriad o’r math hwnnw,

b

gweithredu’n unol â’r canllawiau a gyhoeddwyd ganddo mewn perthynas â thoriad o’r math hwnnw (yn benodol, y canllawiau a gyhoeddwyd o dan baragraff 13), neu

c

gweithredu’n unol â’r egwyddorion y cyfeirir atynt ym mharagraff 15 neu ag egwyddorion arferion gorau eraill mewn perthynas â gorfodi toriad o’r math hwnnw.

3

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy gyfarwyddyd, ddirymu cyfarwyddyd a roddwyd ganddynt o dan is-baragraff (1) os ydynt wedi eu bodloni bod y gweinyddwr wedi cymryd y camau priodol i unioni’r methiant yr oedd y cyfarwyddyd hwnnw’n ymwneud ag ef.

4

Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (1) neu (3), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

a

y gweinyddwr, a

b

y personau eraill hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

5

Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan y paragraff hwn, rhaid iddynt osod copi o’r cyfarwyddyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

6

Rhaid i’r gweinyddwr gymryd camau i ddwyn cyfarwyddyd o dan y paragraff hwn i sylw personau eraill y mae’r cyfarwyddyd yn debygol o effeithio arnynt; a rhaid iddo wneud hynny yn y fath fodd (os o gwbl) y caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol.

Annotations:
Commencement Information
I17

Atod. 1 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

I1818Talu cosbau i Gronfa Gyfunol Cymru

Pan fo gweinyddwr yn cael y canlynol yn unol ag unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan yr Atodlen hon—

a

cosb ariannol benodedig, cosb ariannol amrywiadwy neu gosb am beidio â chydymffurfio,

b

unrhyw log neu gosb ariannol arall am dalu cosb o’r fath yn hwyr, neu

c

swm a delir er mwyn rhyddhau rhag atebolrwydd am gosb ariannol benodedig yn unol â pharagraff 3(1)(b),

rhaid i’r gweinyddwr ei dalu neu ei thalu i Gronfa Gyfunol Cymru.

Annotations:
Commencement Information
I18

Atod. 1 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)

I1919Mynegai o dermau wedi eu diffinio

Yn yr Atodlen hon, mae’r ymadroddion a ganlyn yn cael eu diffinio neu eu hegluro fel arall yn y darpariaethau a nodir—

  • “cosb am beidio â chydymffurfio” (“non-compliance penalty”): paragraff 6(1);

  • “cosb ariannol amrywiadwy” (“variable monetary penalty”): paragraff 4(4) a (3)(a);

  • “cosb ariannol benodedig” (“fixed monetary penalty”): paragraff 2(3);

  • “gofyniad yn ôl disgresiwn nad yw’n un ariannol” (“non-monetary discretionary requirement”): paragraff 4(4) a (3)(b);

  • “gofyniad yn ôl disgresiwn” (“discretionary requirement”): paragraff 4(3);

  • “hysbysiad cyhoeddusrwydd” (“publicity notice”): paragraff 11(2);

  • “hysbysiad o fwriad” (“notice of intent”) (mewn perthynas â chosb ariannol benodedig arfaethedig): paragraff 3(1)(a);

  • “hysbysiad o fwriad” (“notice of intent”) (mewn perthynas â gofyniad yn ôl disgresiwn arfaethedig): paragraff 5(1)(a);

  • “sancsiwn sifil” (“civil sanction”): paragraff 1(3);

  • “torri” a “toriad” (“breach”) (mewn perthynas â rheoliadau bagiau siopa): paragraff 1(2).