RHAN 1RHEOLI CYNALIADWY AR ADNODDAU NATURIOL
Cytundebau rheoli tir
16Pŵer i ymrwymo i gytundebau rheoli tir
1
Caiff CNC wneud cytundeb â pherson sydd â buddiant mewn tir yng Nghymru ynghylch rheolaeth y tir neu ddefnydd o’r tir (“cytundeb rheoli tir”), os yw’n ymddangos iddo fod gwneud hynny yn hyrwyddo cyflawni unrhyw amcan sydd ganddo o ran arfer ei swyddogaethau.
2
Caiff cytundeb rheoli tir wneud y canlynol, ymhlith pethau eraill—
a
gosod rhwymedigaethau mewn cysylltiad â defnydd o’r tir ar y person sydd â buddiant yn y tir;
b
gosod cyfyngiadau ar arfer hawliau dros y tir ar y person sydd â buddiant yn y tir;
c
darparu i unrhyw berson neu bersonau wneud y gwaith hwnnw a allai fod yn hwylus at ddibenion y cytundeb;
d
darparu ar gyfer unrhyw fater y mae cynllun rheoli sy’n ymwneud â safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn darparu ar ei gyfer (neu y gallai ddarparu ar ei gyfer);
e
darparu i’r naill barti neu’r llall wneud taliadau i’r parti arall neu i unrhyw berson arall;
f
cynnwys darpariaeth gysylltiedig a chanlyniadol.
3
Yn yr adran hon—
mae “buddiant mewn tir” (“interest in land”) yn cynnwys unrhyw ystad mewn tir ac unrhyw hawl dros dir, pa un a yw’r hawl yn arferadwy yn rhinwedd perchenogaeth o fuddiant mewn tir neu yn rhinwedd trwydded neu gytundeb, ac mae’n cynnwys yn benodol hawliau helwriaeth;
mae i “cynllun rheoli” yr ystyr a roddir i “management scheme” gan Ran 2 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p. 69) (gweler adran 28J);
mae i “safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig” yr ystyr a roddir i “site of special scientific interest” gan Ran 2 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (gweler adran 52(1)).