RHAN 1RHEOLI CYNALIADWY AR ADNODDAU NATURIOL

Cytundebau rheoli tir

I119Effaith cytundebau ar gyflwyno priffordd a rhoi hawddfraint

At ddibenion unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol o ran yr amgylchiadau pan ganiateir rhagdybio bod priffordd wedi ei chyflwyno neu hawddfraint wedi ei rhoi, neu y caniateir penderfynu hynny drwy ragnodiad, mae’r ffaith bod y cyhoedd neu unrhyw berson yn defnyddio ffordd ar draws tir yn rhinwedd cytundeb rheoli tir i gael ei diystyru.