41Datganiad terfynol ar gyfer cyfnod cyllidebolLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)paratoi datganiad terfynol ar gyfer pob cyfnod cyllidebol yn unol â’r adran hon, a
(b)gosod y datganiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru cyn diwedd yr ail flwyddyn ar ôl y cyfnod y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef.
(2)Rhaid i ddatganiad terfynol o dan yr adran hon ddatgan, mewn perthynas â phob nwy tŷ gwydr, gyfanswm allyriadau Cymru, echdyniadau Cymru ac allyriadau net Cymru ar gyfer y cyfnod cyllidebol y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef.
(3)Rhaid iddo—
(a)datgan cyfanswm yr unedau carbon a gredydwyd i gyfrif allyriadau net Cymru neu a ddidynnwyd ohono am y cyfnod, a
(b)rhoi manylion am nifer yr unedau hynny a’r math o unedau.
(4)Rhaid iddo ddatgan swm terfynol cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer y cyfnod.
(5)Rhaid iddo ddatgan a yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu cario swm yn ôl neu ymlaen o dan adran 40 er mwyn cynyddu neu ostwng y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod, ac os felly rhaid iddo ddatgan y swm a gariwyd yn ôl neu ymlaen.
(6)Rhaid iddo ddatgan swm terfynol y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod.
(7)Penderfynir a gyrhaeddwyd y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod drwy gyfeirio at yr wybodaeth yn y datganiad.
(8)Rhaid i’r datganiad egluro’r rhesymau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn gyfrifol am y ffaith bod y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod wedi ei chyrraedd, neu nad yw ei chyrraedd.
(9)Yn benodol, rhaid iddo gynnwys asesiad Gweinidogion Cymru ynghylch i ba raddau y mae eu cynigion a’u polisïau ar gyfer cyrraedd y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod—
(a)wedi eu gweithredu, a
(b)wedi cyfrannu at gyrraedd y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod (neu beidio â’i chyrraedd).
(10)Rhaid i’r asesiad ymdrin â meysydd cyfrifoldeb pob un o Weinidogion Cymru.
(11)Rhaid i ddatganiad o dan yr adran hon hefyd gynnwys—
(a)amcangyfrif o gyfanswm allyriadau defnyddwyr Cymru ar gyfer y cyfnod cyllidebol y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef, a
(b)eglurhad o sut y mae Gweinidogion Cymru wedi cyfrifo’r amcangyfrif.
(12)Ystyr “allyriadau defnyddwyr Cymru” ar gyfer cyfnod yw’r allyriadau o nwyon tŷ gwydr, boed hwy yng Nghymru neu yn rhywle arall, y gellir eu priodoli yn rhesymol i ddefnyddio nwyddau a gwasanaethau yng Nghymru yn ystod y cyfnod.