43Datganiadau ar gyfer blynyddoedd targed interim a 2050LL+C
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)paratoi datganiad ar gyfer pob blwyddyn darged interim ac ar gyfer y flwyddyn 2050 yn unol â’r adran hon, a
(b)gosod pob datganiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru cyn diwedd yr ail flwyddyn ar ôl y flwyddyn y mae’r datganiad yn ymwneud â hi.
(2)Rhaid i ddatganiad o dan yr adran hon ddatgan, mewn perthynas â phob nwy tŷ gwydr, gyfanswm allyriadau Cymru, echdyniadau Cymru ac allyriadau net Cymru ar gyfer y flwyddyn y mae’r datganiad yn ymwneud â hi.
(3)Rhaid iddo—
(a)datgan cyfanswm yr unedau carbon a gredydwyd i gyfrif allyriadau net Cymru neu a ddidynwyd ohono am y flwyddyn, a
(b)rhoi manylion am nifer yr unedau hynny a’r math o unedau.
(4)Rhaid iddo ddatgan swm cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer y flwyddyn.
(5)Penderfynir a gyrhaeddwyd targed allyriadau interim neu darged allyriadau 2050 drwy gyfeirio at yr wybodaeth yn y datganiad ar gyfer y flwyddyn y mae’r targed yn ymwneud â hi.
(6)Rhaid i’r datganiad egluro’r rhesymau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn gyfrifol am y ffaith bod y targed wedi ei gyrraedd, neu nad yw ei gyrraedd.
(7)Caniateir i ddatganiad o dan yr adran hon ar gyfer blwyddyn gael ei gyfuno â’r datganiad o dan adran 41 ar gyfer y cyfnod cyllidebol sy’n cynnwys y flwyddyn honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 43 mewn grym ar 21.5.2016, gweler a. 88(2)(b)