RHAN 1RHEOLI CYNALIADWY AR ADNODDAU NATURIOL
Dyletswyddau cyffredinol ar awdurdodau cyhoeddus
5Diben cyffredinol Corff Adnoddau Naturiol Cymru
(1)
Mae Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 (OS 2012/1903) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2)
“4Diben cyffredinol
(1)
Rhaid i’r Corff—
(a)
ymgyrraedd at reoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol mewn perthynas â Chymru, a
(b)
cymhwyso egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol,
wrth arfer ei swyddogaethau, i’r graddau y bo hynny’n gyson â’u harfer yn briodol.
(2)
Yn yr erthygl hon—
mae i “egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol” (“principles of sustainable management of natural resources”) yr ystyr a roddir gan adran 4 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016;
mae i “rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol” (“sustainable management of natural resources”) yr ystyr a roddir gan adran 3 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.”
(3)
Yn erthygl 5—
(a)
yn y pennawd, ar ôl “diben” mewnosoder “cyffredinol”;
(b)
ym mharagraff (1), ar ôl “ddiben” mewnosoder “cyffredinol yn erthygl 4”;
(c)
ym mharagraff (3) yn lle “swyddogaethau” rhodder “ddiben cyffredinol yn erthygl 4”.
(4)
Hepgorer erthyglau 5B a 5E.