RHAN 4CASGLU A GWAREDU GWASTRAFF
Gwaredu gwastraff
I1I267Pŵer i wahardd neu reoleiddio gwaredu gwastraff drwy losgi
Ym Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 (mccc 8), ar ôl adran 9 mewnosoder—
9ARheoliadau sy’n gwahardd llosgi gwastraff
1
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer gwahardd neu reoleiddio fel arall y weithred o losgi mathau penodedig o wastraff yng Nghymru, ac mewn cysylltiad â’i wahardd neu ei reoleiddio.
2
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud y canlynol (ymhlith pethau eraill)—
a
diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 sy’n ymwneud â gweithrediad peiriannau llosgi gwastraff neu beiriannau cydlosgi gwastraff;
b
darparu ar gyfer tramgwyddau mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â darpariaeth a wnaed o dan y rheoliadau;
c
darparu ar gyfer cosbau mewn perthynas â’r tramgwyddau hynny;
d
darparu ar gyfer awdurdodau gorfodi a swyddogaethau’r awdurdodau hynny.
3
Yn yr adran hon—
mae i “peiriant cydlosgi gwastraff” yr ystyr a roddir i “waste co-incineration plant” yn Erthygl 3(41) o Gyfarwyddeb 2010/75/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar allyriadau diwydiannol (atal a rheoli llygredd integredig) (Ail-lunio);
mae i “peiriant llosgi gwastraff” yr ystyr a roddir i “waste incineration plant” yn Erthygl 3(40) o’r Gyfarwyddeb honno;
ystyr “llosgi” (“incineration”) mewn perthynas â gwastraff, yw—
- a
llosgi gwastraff mewn peiriant llosgi gwastraff neu beiriant cydlosgi gwastraff, a
- b
unrhyw driniaethau thermol eraill i’r gwastraff cyn ei losgi.