RHAN 1RHEOLI CYNALIADWY AR ADNODDAU NATURIOL
Adroddiad ar gyflwr adnoddau naturiol
I18Dyletswydd i baratoi a chyhoeddi adroddiad ar gyflwr adnoddau naturiol
1
Rhaid i CNC baratoi a chyhoeddi adroddiadau yn unol â’r adran hon sy’n cynnwys ei asesiad o gyflwr adnoddau naturiol mewn perthynas â Chymru.
2
Rhaid i bob adroddiad nodi, ymysg pethau eraill—
a
asesiad CNC o’r graddau y mae rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol yn cael ei gyflawni;
b
asesiad CNC o fioamrywiaeth (gan gynnwys yr organeddau byw a’r mathau o gynefinoedd a gynhwysir ar unrhyw restr a gyhoeddir o dan adran 7);
c
yr hyn y mae CNC yn ei ystyried yw’r prif dueddiadau a ffactorau sy’n effeithio, ac sy’n debygol o effeithio, ar gyflwr adnoddau naturiol;
d
unrhyw agweddau ar gyflwr adnoddau naturiol y mae CNC yn ystyried nad oes ganddo wybodaeth ddigonol amdanynt i wneud asesiad.
3
Rhaid i CNC gyhoeddi ei adroddiad cyntaf cyn diwedd y cyfnod o bedwar mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r adran hon yn dod i rym.
4
Wedi hynny, rhaid i CNC gyhoeddi adroddiad cyn diwedd y flwyddyn galendr sy’n dod cyn unrhyw flwyddyn y mae etholiad cyffredinol arferol i fod i gael ei gynnal.
5
Rhaid i CNC gyhoeddi drafft o bob adroddiad sy’n ofynnol gan is-adran (4) cyn diwedd y flwyddyn galendr sy’n dod cyn y flwyddyn y mae’n rhaid i’r adroddiad gael ei gyhoeddi.
6
Yn yr adran hon, ystyr “etholiad cyffredinol arferol” yw’r bleidlais a gynhelir mewn etholiad cyffredinol arferol o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).