Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Deddf Yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016

Rhan 2: Henebion Hynafol Etc

Adran 2 – Trosolwg o’r Rhan hon

8.Mae adran 2 yn darparu trosolwg o’r darpariaethau yn y Rhan hon o’r Ddeddf, sy’n gwneud diwygiadau i Ddeddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 (“Deddf 1979”).

Adran 3 – Diwygiadau sy’n ymwneud â’r Gofrestr

9.Mae adran 3(1) yn mewnosod adrannau newydd 1AA i 1AE yn Neddf 1979. Mae’r adrannau hyn yn gosod gofyniad ar Weinidogion Cymru i ymgynghori ar ddiwygiadau penodol i’r gofrestr o henebion (“y Gofrestr”); yn cyflwyno gwarchodaeth interim ar gyfer henebion wrth aros am benderfyniadau ynghylch diwygiadau penodol sy’n ymwneud â’r Gofrestr; ac yn darparu ar gyfer adolygu penderfyniadau ynghylch diwygiadau penodol sy’n ymwneud â’r Gofrestr.

1AA Dyletswydd i ymgynghori ar ddiwygiadau penodol sy’n ymwneud â’r Gofrestr

10.Mae adran newydd 1AA yn gosod gofyniad ar Weinidogion Cymru i ymgynghori ar gynigion i gynnwys heneb yn y Gofrestr, i eithrio heneb o’r Gofrestr neu i wneud diwygiad perthnasol sy’n ymwneud â chofnod yn y Gofrestr.

11.Dim ond enw’r heneb sydd mewn cofnod yn y Gofrestr, ond mae map sy’n dangos union hyd a lled yr heneb sy’n cael ei gwarchod yn dod gyda’r cofnod. Mae adran 1AA(5) yn diffinio diwygiad perthnasol (“material amendment”) fel un sy’n ychwanegu at yr ardal a ddangosir, neu sy’n lleihau’r ardal a ddangosir, ar gyfer yr heneb ar fap o’r fath. Os bwriedir cynyddu neu leihau’r ardal a ddangosir ar gyfer heneb ar y map, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ar y newid.

12.Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal yr ymgynghoriad drwy gyflwyno hysbysiad o’r cynnig i’r personau priodol, fel y’u diffinnir yn adran 1AA(3). Mae adran 1AA(6) yn darparu pwerau gwneud rheoliadau i ganiatáu i Weinidogion Cymru ychwanegu personau priodol pellach at y rhestr yn is-adran (3) a gwneud unrhyw ddiwygiadau canlyniadol i’r Ddeddf a all fod yn angenrheidiol o ganlyniad i hynny.

13.Mae adran 1AA(4) yn ei gwneud yn ofynnol i’r hysbysiad gynnwys gwybodaeth benodol, gan gynnwys:

  • y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid i’r personau priodol gyflwyno eu sylwadau ysgrifenedig ynghylch y cofrestru arfaethedig (rhaid i’r dyddiad fod o leiaf 28 o ddiwrnodau o’r dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad);

  • esboniad sy’n nodi y bydd gwarchodaeth interim yn gymwys pan fo’r cynnig i gynnwys heneb yn y Gofrestr, neu i wneud diwygiad perthnasol mewn perthynas â chofnod yn y Gofrestr a fyddai’n cynyddu’r ardal o dir sydd wedi ei chofrestru. Caiff yr heneb ei gwarchod felly fel pe bai wedi ei chofrestru yn unol â’r cynnig hyd nes y cyflwynir hysbysiad pellach i’r perchennog, y meddiannydd a’r awdurdod lleol. Yn y cyfamser, bydd unrhyw waith anawdurdodedig i’r heneb yn drosedd; ac

  • y dyddiad y mae’r warchodaeth interim yn cymryd effaith, y caniateir iddo fod yr un dyddiad â dyddiad cyflwyno’r hysbysiad ymgynghori i’r personau priodol (o dan adran 1AA(2)).

14.Mae adran 56 o Ddeddf 1979 yn nodi sut y caniateir i ddogfennau gael eu cyflwyno o dan y Ddeddf, ac mae ei darpariaethau yn gymwys i ddosbarthu hysbysiadau i’r personau priodol o dan adran newydd 1AA.

1AB Gwarchodaeth interim wrth aros am benderfyniadau ynghylch diwygiadau penodol sy’n ymwneud â’r Gofrestr

15.Mae adran newydd 1AB yn gwneud darpariaeth i henebion ac ardaloedd o dir gael gwarchodaeth interim wrth aros am benderfyniad Gweinidogion Cymru ynghylch gwneud diwygiadau penodol sy’n ymwneud â’r Gofrestr.

16.Tra bo heneb yn cael ei hystyried a thra bo’r ymgynghoriad ynghylch ei chofrestru yn mynd rhagddo, mae angen iddi gael ei gwarchod rhag cael ei dinistrio, ei newid neu ei difrodi mewn modd a fydd yn peryglu ei harwyddocâd o bosibl. Yn yr un modd, os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ychwanegu at ardal heneb gofrestredig, bydd angen gwarchod y tir hwnnw fel nad yw arwyddocâd y tir hwnnw yn gallu cael ei beryglu cyn i benderfyniad gael ei wneud.

17.Mae adran 1AB(1) yn pennu y bydd gwarchodaeth interim yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru wedi cyflwyno hysbysiad o gynnig naill ai i gynnwys heneb yn y Gofrestr, neu i wneud diwygiad perthnasol sy’n cynyddu’r ardal a ddangosir ar gyfer heneb ar fap sy’n dod gyda chofnod yr heneb yn y Gofrestr.

18.Mae adran 1AB(2) yn nodi o ba ddyddiad y bydd y warchodaeth interim yn gymwys. Mae darpariaethau Deddf 1979 yn cael effaith o’r dyddiad hwnnw fel pe bai’r heneb yn y Gofrestr, neu fel pe bai’r diwygiad i’r map wedi ei wneud.

19.Mae adran 1AB(4) a (5) yn gwneud darpariaeth i warchodaeth interim beidio â bod mwyach pan fydd Gweinidogion Cymru:

  • yn cynnwys yr heneb yn y Gofrestr;

  • yn cyflwyno hysbysiad i’r perchennog, y meddiannydd a’r awdurdod lleol i’w hysbysu na fydd yr heneb yn cael ei chynnwys ar y Gofrestr;

  • yn gwneud diwygiad perthnasol sy’n cynyddu’r ardal a ddangosir ar gyfer yr heneb ar fap sy’n dod gyda chofnod yr heneb yn y Gofrestr; neu

  • yn cyflwyno hysbysiad i’r perchennog, y meddiannydd a’r awdurdod lleol i’w hysbysu na fydd diwygiad perthnasol o’r math hwnnw yn cael ei wneud.

20.Mae adran 1AB(6) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi’n electronig restr o’r holl henebion y mae gwarchodaeth interim yn cael effaith mewn perthynas â hwy, a darparu copi o unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan adran 1AA(2) ar gais.

1AC Darpariaethau sy’n gymwys ar ddarfodiad gwarchodaeth interim

21.Mae adran newydd 1AC yn cyflwyno Atodlen A1 i Ddeddf 1979. Mae’r Atodlen yn cynnwys darpariaethau sy’n gymwys pan fo gwarchodaeth interim yn peidio â chael effaith mwyach o ganlyniad i benderfyniad Gweinidogion Cymru i beidio â chynnwys heneb yn y Gofrestr neu i beidio â gwneud diwygiad perthnasol sy’n cynyddu’r ardal a ddangosir ar gyfer heneb ar fap sy’n dod gyda chofnod yr heneb yn y Gofrestr.

1AD Digollediad am golled neu ddifrod a achosir gan warchodaeth interim

22.Mae adran newydd 1AD yn gwneud darpariaeth i ddigollediad gael ei dalu am golled neu ddifrod a achosir gan warchodaeth interim os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chynnwys heneb yn y Gofrestr neu beidio â gwneud diwygiad perthnasol sy’n cynyddu’r ardal a ddangosir ar gyfer heneb ar fap sy’n dod gyda chofnod yr heneb yn y Gofrestr.

1AE Adolygu penderfyniadau ynghylch diwygiadau penodol sy’n ymwneud â’r Gofrestr

23.Mae adran newydd 1AE yn cynnwys darpariaeth ar gyfer adolygu penderfyniadau Gweinidogion Cymru i wneud diwygiadau penodol sy’n ymwneud â’r Gofrestr. Y diwygiadau o dan sylw yw’r rhai hynny sy’n cynnwys heneb yn y Gofrestr, neu sy’n ychwanegu at yr ardal a ddangosir ar gyfer heneb ar fap sy’n dod gyda cofnod yr heneb yn y Gofrestr.

24.Pan wneir diwygiad o’r fath, mae adran 1AE(2) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad i’r perchennog a’r meddiannydd (os nad y perchennog yw’r meddiannydd) sy’n eu hysbysu bod yr heneb wedi ei chynnwys yn y Gofrestr, neu fod diwygiad wedi ei wneud sy’n ychwanegu at yr ardal a ddangosir ar gyfer yr heneb, ac y caniateir i gais gael ei wneud i Weinidogion Cymru i ofyn i’r penderfyniad gael ei adolygu.

25.Mae adran 1AE(3) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgymryd ag adolygiad ar gais a rhoi effaith i’w penderfyniad ynghylch yr adolygiad drwy ddiwygio’r Gofrestr neu’r map yn briodol.

26.Mae adran 1AE(4) yn pennu mai dim ond drwy adran 55 o Ddeddf 1979 (achosion ar gyfer cwestiynu dilysrwydd gorchmynion penodol) y caniateir i benderfyniad ynghylch adolygiad gael ei herio yn yr Uchel Lys. Yr unig seiliau a ganiateir ar gyfer herio’r penderfyniad o dan adran 55 yw nad oedd y penderfyniad o fewn pwerau Deddf 1979 neu na chydymffurfiwyd â’r gofynion perthnasol.

27.Mae adran 1AE(5) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal yr adolygiad drwy ymchwiliad lleol, gwrandawiad neu sylwadau ysgrifenedig. Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu pa weithdrefn sydd fwyaf priodol.

28.Mae adran 1AE(6) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n nodi: y seiliau y caniateir gofyn am adolygiad arnynt, yr wybodaeth y mae rhaid ei darparu mewn cysylltiad â chais am adolygiad, ffurf a dull cais am adolygiad, a’r cyfnod y mae rhaid gwneud cais ynddo.

29.Mae adran 1AE(7) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth bellach mewn rheoliadau mewn cysylltiad ag adolygiadau, gan gynnwys darpariaeth ynghylch costau.

30.Mae adran 1AE(9) yn cyflwyno Atodlen A2 i Ddeddf 1979 sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru benodi person i wneud penderfyniadau ynghylch adolygiadau.

31.Mae adran 3(2) yn mewnosod adran newydd 2(6A) yn Neddf 1979, sy’n darparu amddiffyniad i berson sydd wedi ei gyhuddo o wneud gwaith anawdurdodedig i heneb y rhoddwyd gwarchodaeth interim iddi. Mae’r amddiffyniad yn gymwys pan fo’r cyhuddedig yn gallu profi nad oedd yn gwybod, ac na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol iddo wybod, fod gwarchodaeth interim wedi ei rhoi i’r heneb. Os codir amddiffyniad o’r fath, bydd rhaid i’r erlyniad brofi, pe dylai hysbysiad gwarchod interim fod wedi ei gyflwyno i’r cyhuddedig o dan adran 1AA(2), ei fod wedi ei gyflwyno.

Adran 4 – Diwygiadau sy’n ymwneud â’r Gofrestr: darpariaeth ganlyniadol

32.Mae adran 4 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Ddeddf 1979 o ganlyniad i gyflwyno’r darpariaethau o ran ymgynghori, gwarchodaeth interim ac adolygu.

33.Mae adran 4(1) yn mewnosod is-adran newydd (5A) yn adran 1 o Ddeddf 1979 (cofrestr o henebion), sy’n cyfeirio at y darpariaethau newydd ynghylch ymgynghori gan Weinidogion Cymru ar gynigion i gynnwys heneb yn y Gofrestr, i eithrio heneb o’r Gofrestr neu i wneud diwygiad perthnasol mewn perthynas â’r Gofrestr.

34.Mae adran 4(2) yn mewnosod is-adrannau newydd (6B) a (6C) yn adran 1 o Ddeddf 1979. Mae adran 1(6B) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru hysbysu perchennog a meddiannydd heneb, a’r awdurdod lleol y mae’r heneb yn ei ardal, pan fo diwygiad wedi ei wneud i’r ardal a ddangosir ar gyfer yr heneb ar y map cofrestru, ac anfon copi o’r map diwygiedig atynt. Mae adran 1(6C) yn cyfeirio at ddarpariaethau ynghylch yr wybodaeth ychwanegol y mae angen ei darparu i berchenogion a/neu feddianwyr pan wneir diwygiadau penodol mewn perthynas â’r Gofrestr, sef gwybodaeth ynghylch yr hawl i ofyn am adolygiad o’r penderfyniad i wneud y diwygiad.

35.Mae adran 4(3) yn cymhwyso adran 27 o Ddeddf 1979, sy’n nodi’r modd y mae digollediad ar gyfer y dibrisiant yng ngwerth buddiant mewn tir i gael ei asesu, i’r digollediad sy’n daladwy o dan adran 1AD am golled neu ddifrod a achosir gan warchodaeth interim.

36.Mae adran 4(4) yn cymhwyso is-adran (3) o adran 51 o Ddeddf 1979 (eiddo eglwysig) i unrhyw ddigollediad am golled neu ddifrod a achosir gan warchodaeth interim ar gyfer heneb ar dir sy’n eiddo eglwysig. Ystyr “eiddo eglwysig”, yn y cyd-destun hwn, yw tir sy’n eiddo i Eglwys Loegr, ac effaith y ddarpariaeth yw ei gwneud yn ofynnol i unrhyw ddigollediad o’r fath gael ei dalu i’r Bwrdd Cyllid Esgobaethol ar gyfer yr esgobaeth lle y mae’r heneb.

37.Mae adran 4(5) yn cymhwyso adran 55 o Ddeddf 1979 (achosion ar gyfer cwestiynu dilysrwydd gorchmynion penodol) i benderfyniad ynghylch adolygiad o dan adran 1AE, fel mai dim ond ar seiliau penodol y caniateir i benderfyniad a wneir gan Weinidogion Cymru ynghylch adolygiad gael ei gyfeirio at yr Uchel Lys.

Adran 5 – Symleiddio’r broses

38.Mae adran 5(1) yn mewnosod is-adrannau newydd (5A) a (5B) yn adran 2 o Ddeddf 1979 (rheoli gwaith sy’n effeithio ar henebion cofrestredig) ac mae adran 5(2) yn mewnosod paragraff 1(3) yn Rhan 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno (ceisiadau am gydsyniad heneb gofrestredig). Mae’r darpariaethau newydd yn galluogi i reoliadau gael eu gwneud i symleiddio’r broses ar gyfer gwneud cais am gydsyniad heneb gofrestredig a’i roi.

39.Mae adran 2 o Ddeddf 1979 yn nodi ei bod yn ofynnol cael cydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer:

  • unrhyw waith sy’n arwain at ddifrodi heneb gofrestredig neu ei dymchwel,

  • unrhyw waith i symud neu i atgyweirio heneb o’r fath neu ran ohoni neu unrhyw newidiadau iddi neu ychwanegiadau ati, ac

  • unrhyw lifogydd neu weithrediadau tipio ar y tir, yn y tir neu o dan y tir lle y mae heneb gofrestredig.

40.Mae adran newydd 2(5A) a (5B) yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ar ffurf a chynnwys cydsyniad heneb gofrestredig ac yn dileu’r gofyniad bod rhaid i gydsyniad gael ei roi yn ysgrifenedig.

41.Mae rheoliadau a wneir o dan baragraff 1(1) o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1979 yn nodi’r ffurf a’r dull y mae ceisiadau am gydsyniad heneb gofrestredig i gael eu gwneud.

42.Mae paragraff newydd 1(3) o Ran 1 o Atodlen 1 yn galluogi i reoliadau gael eu gwneud gan Weinidogion Cymru er mwyn caniatáu i geisiadau am gydsyniad heneb gofrestredig gael eu gwneud mewn ffyrdd eraill. Caniateir i’r rheoliadau hynny roi’r disgresiwn i Weinidogion Cymru i benderfynu ar y weithdrefn a all fod yn briodol ar gyfer gwneud cais.

43.Mae cyfran helaeth o geisiadau am gydsyniad heneb gofrestredig yn cynnwys cynigion syml, er enghraifft gosod camfa newydd sy’n cyfateb yn union i’r gamfa wreiddiol, neu wneud gwaith atgyweirio syml i greithiau erydu. Bydd y pwerau hyn i wneud rheoliadau yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyflwyno gweithdrefnau symlach ar gyfer cael cydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer cynigion syml am fân waith nad yw’n amlwg. Gellid gwneud hyn, er enghraifft, drwy hepgor elfennau o’r broses, megis cyflwyno cais ysgrifenedig neu fod yr ymgeisydd yn derbyn penderfyniad interim, pan fo Gweinidogion Cymru a’r ymgeisydd yn fodlon defnyddio gweithdrefn symlach.

Adran 6 – Rhoi cydsyniad i waith anawdurdodedig

44.Mae adran 6 yn mewnosod is-adrannau newydd (3A) a (3B) yn adran 2 o Ddeddf 1979 (rheoli gwaith sy’n effeithio ar henebion cofrestredig). Mae’r darpariaethau hyn yn caniatáu i gydsyniad heneb gofrestredig gael ei roi ar gyfer gwaith sydd eisoes wedi ei wneud.

45.Mae adran 2 o Ddeddf 1979 yn ei gwneud yn drosedd i wneud gwaith penodedig i heneb gofrestredig oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi awdurdodi’r gwaith o dan Ran 1 o’r Ddeddf honno, gan gynnwys drwy roi cydsyniad heneb gofrestredig ysgrifenedig.

46.O dan amgylchiadau penodol, gall fod yn well cadw gwaith anawdurdodedig a wnaed i heneb yn hytrach na’i gwneud yn ofynnol i’r gwaith hwnnw gael ei wrthdroi, yn enwedig pe gallai gwrthdroi’r gwaith arwain at wneud rhagor o ddifrod. Er enghraifft, gallai gwaith i ddileu’r sylfeini a godid ar gyfer adeilad neu waith i ailosod trac arwain at aflonyddu’r tir ymhellach. Byddai rhoi cydsyniad heneb gofrestredig i awdurdodi gwaith sydd eisoes wedi ei wneud ac i reoli, drwy amodau, fod y gwaith hwnnw yn cael ei gwblhau yn ateb ansicrwydd ynghylch pa mor gyfreithlon yw cadw’r gwaith ac yn dileu’r posibilrwydd o erlyniad neu sancsiynau eraill yn y dyfodol.

Adran 7 – Y drosedd o roi gwybodaeth anwir ar gais

47.Mae paragraff 2(1) o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1979 (ceisiadau am gydsyniad heneb gofrestredig) yn caniatáu i Weinidogion Cymru wrthod ystyried cais am gydsyniad heneb gofrestredig oni bai bod tystysgrif benodedig yn dod gyda’r cais. Mae paragraff 2(2) yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch ffurf tystysgrifau o’r fath a’r manylion pellach y mae rhaid eu cynnwys arnynt. Mae paragraff 2(4) yn ei gwneud yn drosedd i ddyroddi tystysgrif sy’n honni cydymffurfio â gofynion paragraff 2 o Ran 1 o Atodlen 1, ond sy’n cynnwys datganiad anwir neu gamarweiniol o ran manylyn arwyddocaol.

48.Mae adran 7 yn diwygio paragraff 2(4) er mwyn ei gwneud yn drosedd, yn ogystal, i ddyroddi tystysgrif sy’n honni cydymffurfio ag unrhyw ofynion sydd wedi eu cynnwys mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 2 o Ran 1 o Atodlen 1, ond sy’n cynnwys datganiad anwir neu gamarweiniol o ran manylyn arwyddocaol.

Adran 8 – Gwrthod ceisiadau a ailadroddir etc

49.Mae adran 8 yn mewnosod paragraff newydd 2B yn Rhan 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1979 (ceisiadau am gydsyniad heneb gofrestredig), sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i wrthod ystyried cais am gydsyniad heneb gofrestredig:

  • pan fo’r cais yn debyg i gais a wnaed o fewn y ddwy flynedd flaenorol a bod Gweinidogion Cymru o’r farn na fu unrhyw newid sylweddol mewn unrhyw ystyriaeth berthnasol ers i’r cais tebyg gael ei wrthod; neu

  • pan wneir y cais tra bo cais tebyg yn cael ei ystyried gan Weinidogion Cymru.

Adran 9 – Y weithdrefn ar gyfer penderfynu ar geisiadau

50.Mae adran 9 yn cyflwyno gweithdrefnau newydd ar gyfer penderfynu ar geisiadau am gydsyniad heneb gofrestredig.

51.Mae adran 9(1) yn cyfyngu ar gymhwysiad paragraff 3 yn Rhan 1 o Atodlen 1 o Ddeddf 1979 (ceisiadau am gydsyniad heneb gofrestredig) i henebion cofrestredig yn Lloegr.

52.Mae adran 9(2) yn mewnosod paragraff 3A yn Rhan 1 o Atodlen 1. Mae’r paragraff hwn yn gymwys i geisiadau am gydsyniad heneb gofrestredig i gwneud gwaith ar henebion cofrestredig yng Nghymru.

53.Mae paragraff 3A yn nodi y caiff Gweinidogion Cymru, cyn penderfynu pa un ai i roi cydsyniad heneb gofrestredig ai peidio, gynnal ymchwiliad lleol cyhoeddus neu roi cyfle i bersonau i ymddangos gerbron person a benodir gan Weinidogion Cymru a chael gwrandawiad ganddo neu i gyflwyno sylwadau i berson o’r fath.

54.Mae paragraff 3A(4) yn gorfodi Gweinidogion Cymru i roi ystyriaeth i unrhyw sylwadau a gyflwynir mewn cysylltiad â chais ac i ystyried unrhyw adroddiad a wneir gan berson a benodir i gynnal ymchwiliad neu wrandawiad neu i gael sylwadau.

55.Mae paragraff 3A(5) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad o’u penderfyniad i’r ymgeisydd ac i bob person sydd wedi cyflwyno sylwadau ynghylch y cais am gydsyniad heneb gofrestredig.

Adran 10 – Digollediad am wrthod cydsyniad heneb gofrestredig

56.Mae adran 10 yn diwygio adran 7 o Ddeddf 1979, sy’n ei gwneud yn ofynnol i ymgeisydd am gydsyniad heneb gofrestredig gael ei ddigolledu o dan amgylchiadau penodol os yw’n dioddef colled neu ddifrod o ganlyniad i wrthod y cydsyniad hwnnw neu ei roi yn ddarostyngedig i amodau.

57.Mae’r adran yn cyfyngu cymhwysiad adran 7(4) o Ddeddf 1979 i Loegr ac yn mewnosod is-adran newydd (4A). Mae’r is-adran newydd yn nodi na fydd unrhyw ddigollediad yn daladwy yng Nghymru pe bai’r gwaith y ceisiwyd cydsyniad heneb gofrestredig ar ei gyfer yn arwain, neu y gallai arwain, at ddymchwel heneb yn gyfan gwbl neu’n rhannol, oni bai mai dim ond gweithrediadau a oedd yn ymwneud yn uniongyrchol, neu a oedd yn gysylltiedig, â’r defnydd o safle’r heneb at ddibenion a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru y byddai’r gwaith wedi eu cynnwys.

Adran 11 – Cytundebau partneriaeth dreftadaeth

58.Mae adran 11 yn mewnosod adrannau newydd 9ZA a 9ZB yn Neddf 1979 sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer cytundebau partneriaeth dreftadaeth yng Nghymru. Yn fras, cytundebau rhwng Gweinidogion Cymru a pherchenogion henebion cofrestredig yw cytundebau partneriaeth dreftadaeth y caniateir iddynt roi cydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer rhaglen o waith, gan gael gwared ar yr angen i wneud cais am gydsyniad ar wahân ar gyfer pob cyfres o waith.

9ZA Cytundeb partneriaeth dreftadaeth

59.Mae adran 9ZA(1) yn nodi bod rhaid i’r partïon i gytundeb gynnwys Gweinidogion Cymru a pherchennog heneb gofrestredig neu dir sy’n cydffinio â heneb gofrestredig neu dir sydd yng nghyffiniau heneb gofrestredig. Mae adran 9ZA(2) yn caniatáu i bersonau ychwanegol fod yn bartïon i gytundeb, gan gynnwys unrhyw berson a chanddo fuddiant yn yr ased, megis grŵp cymunedol, neu unrhyw berson sy’n ymwneud â rheoli’r ased, megis rheolwr safle.

60.Caiff cytundeb partneriaeth dreftadaeth roi cydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer gwaith penodedig at ddiben:

  • symud yr heneb gofrestredig ymaith neu ei hatgyweirio, neu

  • gwneud unrhyw newidiadau i’r heneb neu ychwanegiadau ati.

61.Caiff cytundeb hefyd bennu unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth y cydsyniad hwnnw.

62.Ni chaiff cytundeb partneriaeth dreftadaeth roi cydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer gwaith sy’n arwain at ddymchwel neu ddinistrio heneb gofrestredig neu wneud unrhyw ddifrod iddi (adran 2(2)(a) o Ddeddf 1979) nac ychwaith ar gyfer unrhyw lifogydd neu weithrediadau tipio ar y tir, yn y tir neu o dan y tir lle y mae heneb gofrestredig (adran 2(2)(c) o Ddeddf 1979).

63.Mae adran 9ZA(4) yn nodi’r ystod o faterion ychwanegol y caiff cytundeb partneriaeth dreftadaeth wneud darpariaeth ar eu cyfer, gan gynnwys y fanyleb o waith y mae’r partïon yn cytuno na fyddai cydsyniad heneb gofrestredig yn ofynnol ar ei gyfer.

64.Mae adran 9ZA(6) a (7) yn diffinio perchennog (“owner”) at ddiben cytundebau partneriaeth dreftadaeth ac yn caniatáu i Weinidogion Cymru ymrwymo i gytundeb ag unrhyw un neu ragor o berchenogion heneb gofrestredig sydd o dan amlberchenogaeth, heb orfod ymrwymo i gytundeb â phob un o’r perchenogion hynny.

9ZB Cytundeb partneriaeth dreftadaeth: atodol

65.Mae adran newydd 9ZB yn gwneud darpariaeth atodol mewn perthynas â chytundebau partneriaeth dreftadaeth. Mae adran 9ZB(1) yn pennu bod rhaid i gytundebau o’r fath fod yn ysgrifenedig a rhaid iddynt wneud darpariaeth ar gyfer adolygu, terfynu ac amrywio’r cytundebau gan y partïon.

66.Mae adran 9ZB(2) yn ei gwneud yn glir y gall mwy nag un heneb gofrestredig fod yn destun cytundeb, ar yr amod bod Gweinidogion Cymru a’r perchennog yn bartïon i’r cytundeb ym mhob achos.

67.Mae adran 9ZB(3) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i ddarparu ar gyfer: yr ymgynghori a’r cyhoeddusrwydd y mae eu hangen ar gyfer creu neu amrywio cytundeb partneriaeth dreftadaeth; telerau y mae rhaid eu cynnwys mewn cytundeb partneriaeth dreftadaeth; a therfynu cytundeb partneriaeth dreftadaeth neu unrhyw ddarpariaeth ohono.

68.Mae adran 9ZB(4) a (5) yn pennu’r personau y mae rhaid ymgynghori â hwy o dan y trefniadau ymgynghori ar gyfer creu neu amrywio cytundeb partneriaeth dreftadaeth. Mae’r trefniadau ymgynghori yn wahanol ar gyfer cytundeb partneriaeth dreftadaeth sy’n cynnwys heneb gofrestredig ac ar gyfer cytundeb partneriaeth dreftadaeth sy’n cynnwys tir sy’n cydffinio â heneb gofrestredig neu dir sydd yng nghyffiniau heneb gofrestredig.

69.Mae adran 9ZB(6) yn darparu y gall y rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru sy’n galluogi i gytundeb partneriaeth dreftadaeth gael ei therfynu drwy orchymyn gynnwys darpariaeth atodol, gysylltiedig, ddarfodol, drosiannol neu arbed.

70.Mae adran 9ZB(7) yn caniatáu i’r rheoliadau ddatgymhwyso, cymhwyso neu atgynhyrchu, gydag addasiadau neu hebddynt, unrhyw ddarpariaethau o Ddeddf 1979 at ddiben cytundebau partneriaeth dreftadaeth.

71.Mae adran 9ZB(8) yn darparu na fydd cytundebau partneriaeth dreftadaeth ond yn rhwymo’r partïon i’r cytundebau hynny. Ni fydd perchenogion yr heneb gofrestredig yn y dyfodol yn cael eu rhwymo gan gytundeb partneriaeth dreftadaeth, nac ychwaith yn gallu manteisio ar unrhyw gydsyniad heneb gofrestredig a roddir gan y cytundeb.

Adran 12 – Hysbysiadau gorfodi

72.Mae adran 12 yn mewnosod adrannau newydd 9ZC i 9ZH yn Neddf 1979, sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru ddyroddi hysbysiadau gorfodi heneb gofrestredig.

9ZC Hysbysiad gorfodi heneb gofrestredig

73.Mae adran 9ZC(1) a (2) yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiadau gorfodi mewn cysylltiad â gwaith anawdurdodedig sydd wedi ei wneud, neu sy’n cael ei wneud, i heneb gofrestredig neu ar dir y mae heneb gofrestredig ynddo, arno neu odano. Wrth ystyried pa un ai i ddyroddi hysbysiad gorfodi, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i effeithiau’r gwaith ar yr heneb sydd o bwys cenedlaethol.

74.Mae adran 9ZC(3) yn ei gwneud yn ofynnol i’r hysbysiad gorfodi bennu’r toriad honedig a’r gwaith sydd i ddod i ben a/neu’r camau y mae Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol eu bod yn cael eu cymryd. Gall y camau hyn fod yn gamau i adfer yr heneb i’w chyflwr blaenorol neu’r tir i’w gyflwr blaenorol. Os yw Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw’r gwaith o adfer yr heneb i’w chyflwr blaenorol neu’r tir i’w gyflwr blaenorol yn ymarferol neu’n ddymunol, caiff yr hysbysiad gorfodi bennu’r camau sy’n ofynnol i leddfu effaith y gwaith anawdurdodedig. Os rhoddwyd caniatâd heneb gofrestredig ar gyfer y gwaith, caiff hysbysiad gorfodi hefyd bennu’r camau sy’n ofynnol er mwyn sicrhau yr adferir yr heneb, neu’r tir, i’r cyflwr y byddai’r heneb neu’r tir wedi bod ynddo pe bai’r gwaith wedi cydymffurfio ag amodau’r cydsyniad heneb gofrestredig.

75.Rhaid i’r hysbysiad gorfodi hefyd nodi’r cyfnod y mae Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i’r gwaith ddod i ben ynddo a’r cyfnod ar gyfer cymryd unrhyw gamau sy’n ofynnol gan yr hysbysiad. O ystyried y gall fod angen gwneud ystod o waith sy’n amrywio o ran pa mor frys ydyw, mae adran 9ZC(6) yn caniatáu i’r hysbysiad bennu cyfnodau cydymffurfio gwahanol ar gyfer gwaith neu gamau gwahanol. Er enghraifft, caiff yr hysbysiad ei gwneud yn ofynnol i ymchwiliad archaeolegol gael ei gynnal ar unwaith gydag adroddiad yn dilyn.

9ZD Hysbysiad gorfodi heneb gofrestredig: darpariaeth atodol

76.Mae adran 9ZD(1) yn pennu i bwy y mae rhaid cyflwyno copi o’r hysbysiad gorfodi heneb gofrestredig. Mae adran 56 o Ddeddf 1979 (cyflwyno dogfennau) yn gymwys i gyflwyno’r hysbysiad.

77.Mae adran 9ZD(2) yn nodi y caiff Gweinidogion Cymru dynnu hysbysiad gorfodi yn ôl a dyroddi un arall, os bydd angen. Mae adran 9ZD(3) hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio’r gofynion a osodir gan hysbysiad gorfodi, er enghraifft drwy estyn y dyddiad cau ar gyfer cydymffurfio. Fodd bynnag, ni all Gweinidogion Cymru ddiwygio hysbysiad gorfodi er mwyn gosod gofynion mwy beichus; os ydynt yn dymuno gosod gofynion o’r fath, bydd angen iddynt dynnu’r hysbysiad yn ôl a dyroddi hysbysiad newydd.

78.Mae adran 9ZD(5) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi rhestr o hysbysiadau gorfodi sydd wedi eu dyroddi ac sy’n parhau i fod mewn effaith, ynghyd â darparu copi o hysbysiad ar gais.

9ZE Hysbysiad gorfodi heneb gofrestredig: apêl

79.Mae’r adran hon yn nodi’r broses a’r seiliau ar gyfer apelio yn erbyn hysbysiad gorfodi. Caiff person y mae hysbysiad gorfodi wedi ei gyflwyno iddo o dan adran 9ZD(1), neu unrhyw berson arall a chanddo fuddiant yn yr heneb neu’r tir o dan sylw, herio’r hysbysiad drwy apelio i lys ynadon. Mae’r seiliau dros apelio wedi eu nodi yn adran 9ZE(3).

80.Rhaid gwneud yr apêl cyn y dyddiad y mae’r hysbysiad yn cymryd effaith o dan adran 9ZC(3)(a). Unwaith y bydd apêl wedi ei chyflwyno, nid oes gan yr hysbysiad gorfodi unrhyw effaith hyd nes y tynnir yr apêl yn ôl neu hyd nes y penderfynir arni’n derfynol.

81.Mae adran 9ZE(6) yn caniatáu i hysbysiad gorfodi gael ei gadarnhau hyd yn oed os nad yw wedi ei gyflwyno yn unol ag adran 9ZD, ar yr amod nad yw’r methiant wedi cael effaith andwyol sylweddol ar unrhyw un a chanddo fuddiant yn yr heneb neu’r tir.

9ZF Hysbysiad gorfodi heneb gofrestredig: pŵer mynediad

82.Mae adran 9ZF(1) yn rhoi pŵer i berson a awdurdodir yn ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru: i gael mynediad i dir ar adeg resymol i ganfod a ddylid cyflwyno hysbysiad gorfodi; i osod hysbysiad gorfodi ar yr heneb neu ar ryw wrthrych ar safle’r heneb neu ar y tir (os na ellir dod o hyd i fan preswylio hysbys arferol neu ddiwethaf y perchennog neu’r meddiannydd); ac i ganfod a gydymffurfiwyd â hysbysiad gorfodi.

83.Mae adran 9ZF(2) yn caniatáu i berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru gael mynediad i’r tir ar adeg resymol i ymgymryd ag unrhyw waith sy’n ofynnol gan yr hysbysiad os na wnaed y gwaith o fewn y cyfnod ar gyfer cydymffurfio a nodir yn yr hysbysiad. Mae hefyd yn darparu ar gyfer adennill treuliau yr aed iddynt wrth wneud gwaith o’r fath oddi wrth berchennog neu lesddeiliad yr heneb neu’r tir.

84.Mae adran 9ZF(3) yn cyfyngu ar adennill costau oddi wrth berchenogion sy’n cael rhent fel ymddiriedolwr i berson arall i’r swm o arian sydd gan yr ymddiriedolwr neu y mae wedi ei gael yn ei ddwylo ar ran y buddiolwr.

85.Os yw meddiannydd heneb yn atal perchennog rhag ymgymryd â’r gwaith sy’n ofynnol gan hysbysiad gorfodi, mae adran 9ZF(4) yn caniatáu i’r perchennog wneud cais i lys ynadon am warant sy’n ei awdurdodi i gael mynediad i’r tir a chyflawni’r gwaith.

9ZG Methiant i gydymffurfio â hysbysiad gorfodi heneb gofrestredig

86.Mae adran 9ZG yn darparu, pan na chydymffurfiwyd â hysbysiad gorfodi o fewn y cyfnod a bennir, fod perchennog yr heneb neu’r tir wedi torri’r hysbysiad ac yn euog o drosedd. Caniateir i berson gael ei euogfarnu o fwy nag un drosedd mewn perthynas â’r un hysbysiad gorfodi os yw’n parhau i dorri’r hysbysiad.

87.Mae adran 9ZG(5) a (6) yn nodi’r amddiffyniadau ar gyfer y drosedd, ac mae adran 9ZG(7) yn gwneud darpariaeth ar gyfer gosod cosbau ariannol ar euogfarn ddiannod neu ar euogfarn ar dditiad. Mae adran 9ZG(8) yn datgan bod y llysoedd i roi sylw i unrhyw fudd ariannol y gall y person a euogfarnwyd fod wedi ei gael neu’n debygol o’i gael o ganlyniad i’r drosedd wrth benderfynu ar swm unrhyw ddirwy sydd i gael ei gosod.

9ZH Effaith cydsyniad heneb gofrestredig ar hysbysiad

88.Mae adran 9ZH yn gymwys pan fo hysbysiad gorfodi heneb gofrestredig wedi ei ddyroddi, ac yna rhoddir cydsyniad heneb gofrestredig o dan adran newydd 2(3A) o Ddeddf 1979 ar gyfer cadw’r gwaith (gweler adran 6 uchod). O dan yr amgylchiadau hynny, ni fydd yr hysbysiad gorfodi bellach yn cael effaith i’r graddau y mae’n ei gwneud yn ofynnol: i waith o’r fath ddod i ben; i gamau gael eu cymryd pan nad yw’r gwaith a wnaed yn cael ei gadw; neu i gamau gael eu cymryd i gydymffurfio ag unrhyw amod sydd ynghlwm wrth gydsyniad heneb gofrestredig blaenorol.

89.Mae adran 12(2) yn diwygio is-adran 3 o adran 46 o Ddeddf 1979, sy’n darparu ar gyfer digollediad am ddifrod sy’n deillio o arfer pwerau penodol o dan y Ddeddf, fel y bydd yn gymwys mewn achosion o ddifrod sy’n deillio o arfer y pŵer mynediad newydd a roddir gan adran 9ZF.

Adran 13 – Hysbysiadau stop dros dro

90.Mae adran 13 yn mewnosod adrannau newydd 9ZI i 9ZL yn Neddf 1979 er mwyn caniatáu i hysbysiad stop dros dro gael ei ddyroddi pan fo’n ymddangos bod gwaith anawdurdodedig wedi ei wneud neu’n cael ei wneud i henebion cofrestredig.

91.Bydd hysbysiad stop dros dro yn caniatáu i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i waith anawdurdodedig ddod i ben ar unwaith cyn i heneb gofrestredig gael ei dinistrio neu ei difrodi ymhellach. Bydd hefyd yn darparu cyfnod o amser er mwyn caniatáu i Weinidogion Cymru asesu’r sefyllfa a rhoi trefniadau yn eu lle ar gyfer datrys y mater yn anffurfiol, gorfodi neu erlyn.

9ZI Hysbysiad stop dros dro

92.Mae adran 9ZI(1) a (2) yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i ddyroddi hysbysiad stop dros dro. Caniateir i hysbysiad stop dros dro gael ei ddyroddi pan fydd unrhyw waith wedi ei wneud, neu’n cael ei wneud, i heneb gofrestredig neu ar dir y mae heneb arno, ynddo neu odano, os ymddengys i Weinidogion Cymru nad yw’r gwaith wedi ei awdurdodi neu fod y gwaith yn methu â chydymffurfio ag amod sydd ynghlwm wrth gydsyniad heneb gofrestredig a bod Gweinidogion Cymru o’r farn bod rhoi terfyn ar y gwaith ar unwaith yn hwylus, gan roi sylw i effaith y gwaith ar yr heneb sydd o bwys cenedlaethol.

93.Mae adran 9ZI(3) yn datgan bod rhaid i hysbysiad stop dros dro: bod yn ysgrifenedig, pennu’r gwaith sydd i ddod i ben, esbonio pam y dyroddwyd yr hysbysiad, a datgan bod torri’r hysbysiad yn drosedd.

94.Mae adran 9ZI(4) a (5) yn nodi’r trefniadau ar gyfer dwyn hysbysiad stop dros dro i sylw’r cyhoedd. Rhaid iddo gael ei arddangos ar yr heneb, neu gerllaw’r heneb pe gallai arddangos yr hysbysiad ar yr heneb achosi difrod i’r heneb a phennu’r dyddiad y caiff yr hysbysiad ei arddangos am y tro cyntaf. Mae’r hysbysiad stop dros dro yn cymryd effaith ar y dyddiad hwnnw. Yn ogystal, caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno’r hysbysiad stop dros dro i unrhyw berson sy’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei fod yn gwneud y gwaith neu’n peri i’r gwaith gael ei wneud, neu i unrhyw berson a chanddo fuddiant yn yr heneb neu’r tir. Mae adran 56 o Ddeddf 1979 (cyflwyno dogfennau) yn gymwys i gyflwyno’r hysbysiad.

95.Mae adran 9ZI(7) yn datgan bod yr hysbysiad stop dros dro yn peidio â chael effaith ar ôl cyfnod o 28 o ddiwrnodau, neu unrhyw gyfnod byrrach a bennir yn yr hysbysiad. Mae adran 9ZI(8) yn caniatáu i Weinidogion Cymru dynnu’r hysbysiad stop dros dro yn ôl cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau (neu unrhyw gyfnod byrrach a bennir). Mae adran 9ZI(9) yn gwahardd dyroddi hysbysiad stop dros dro arall mewn perthynas â’r un gwaith oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi cymryd rhyw gamau gorfodi eraill mewn perthynas â thorri’r hysbysiad, megis cyflwyno hysbysiad gorfodi neu gael gwaharddeb o dan adran 9ZM.

9ZJ Hysbysiad stop dros dro: pŵer mynediad

96.Mae adran 9ZJ yn caniatáu i Weinidogion Cymru awdurdodi person yn ysgrifenedig i gael mynediad i dir i ganfod a ddylid cyflwyno hysbysiad stop dros dro, i arddangos hysbysiad, i benderfynu a gydymffurfiwyd â hysbysiad, ac i ystyried hawliad am ddigollediad. Dim ond ar adeg resymol y caiff person awdurdodedig gael mynediad i’r tir ac nid oes angen caniatâd penodol y perchennog i wneud hynny.

9ZK Hysbysiad stop dros dro: trosedd

97.Mae adran 9ZK(1) a (2) yn nodi’r amgylchiadau pan fydd person yn euog o drosedd am dorri hysbysiad stop dros dro ac yn caniatáu i berson gael ei euogfarnu o droseddau gwahanol drwy gyfeirio at ddiwrnodau neu gyfnodau gwahanol. Felly, bydd yn bosibl i berson gael ei euogfarnu o fwy nag un drosedd mewn perthynas â hysbysiad stop dros dro os ceir sawl achos o dorri’r hysbysiad.

98.Mae adran 9ZK(3) a (4) yn nodi’r amddiffyniadau i drosedd o dan yr adran hon.

99.Mae adran 9ZK(5) yn darparu mai’r gosb am y drosedd o dorri hysbysiad stop dros dro yw dirwy ddiderfyn. Gan fod difrodi heneb yn fwriadol yn gallu cael ei ysgogi gan y posibilrwydd o gael mantais ariannol, mae’r llysoedd i roi sylw i unrhyw fudd ariannol y gall y person a euogfarnir fod wedi ei gael neu’n debygol o’i gael o ganlyniad i’r drosedd wrth benderfynu ar swm unrhyw ddirwy sydd i gael ei gosod.

9ZL Hysbysiad stop dros dro: digollediad

100.Mae adran 9ZL(1) a (2) yn nodi’r hawl i ddigollediad mewn cysylltiad ag unrhyw golled neu ddifrod y gellir ei briodoli’n uniongyrchol i effaith hysbysiad stop dros dro. Dim ond o dan amgylchiadau penodol y mae digollediad ar gael. Caniateir ei hawlio os nad yw’r gwaith a bennir mewn hysbysiad stop dros dro yn mynd yn groes i is-adrannau (1) neu (6) o adran 2 o Ddeddf 1979 (rheoli gwaith sy’n effeithio ar henebion cofrestredig) oherwydd nad yw cydsyniad heneb gofrestredig yn ofynnol neu oherwydd bod cydsyniad heneb gofrestredig wedi ei roi ar y dyddiad, neu cyn y dyddiad, y caiff yr hysbysiad ei arddangos am y tro cyntaf. Caniateir iddo hefyd gael ei hawlio os yw Gweinidogion Cymru yn tynnu’r hysbysiad stop dros dro yn ôl ac eithrio ar ôl rhoi cydsyniad heneb gofrestredig sy’n awdurdodi’r gwaith, oherwydd, er enghraifft, y canfyddir nad oedd y gwaith wedi ei awdurdodi ac na ddylai’r hysbysiad fod wedi ei arddangos.

101.Mae adran 9ZL(4) yn pennu na fydd unrhyw ddigollediad yn daladwy am golled neu ddifrod os oedd yn ofynnol i’r hawlydd ddarparu gwybodaeth ynghylch perchenogaeth buddiannau yn y tir o dan sylw o dan adran 57 o Ddeddf 1979 a gellid bod wedi osgoi’r golled neu’r difrod pe bai’r hawlydd wedi darparu’r wybodaeth honno neu pe bai wedi cydweithredu fel arall â Gweinidogion Cymru wrth ymateb i’r hysbysiad stop dros dro.

102.Mae adran 13(2) yn cymhwyso adran 27 o Ddeddf 1979, sy’n gwneud darpariaeth ynghylch digollediad sy’n daladwy mewn cysylltiad â cholled neu ddifrod sy’n cynnwys dibrisiant yng ngwerth buddiant mewn tir, i’r digollediad sy’n daladwy o dan adran 9ZL am golled neu ddifrod y gellir ei briodoli i effaith hysbysiad stop dros dro.

103.Mae adran 13(3) yn diwygio adran 44 o Ddeddf 1979, sy’n cynnwys darpariaethau atodol mewn cysylltiad â phwerau mynediad, er mwyn dileu’r gofyniad i roi rhybudd o 24 awr cyn defnyddio’r pŵer mynediad i ganfod a ddylid cyflwyno hysbysiad stop dros dro, i arddangos hysbysiad neu i ganfod a gydymffurfiwyd â hysbysiad.

104.Mae adran 13(4) yn diwygio is-adran (3) o adran 46 o Ddeddf 1979, sy’n darparu ar gyfer digollediad am ddifrod sy’n deillio o arfer pwerau penodol o dan y Ddeddf, fel y bydd yn gymwys mewn achosion o ddifrod sy’n deillio o arfer y pŵer mynediad newydd a roddir gan adran 9ZJ.

105.Mae adran 13(5) yn cymhwyso adran 51 o Ddeddf 1979 (eiddo eglwysig) i unrhyw ddigollediad a delir o ganlyniad i gyflwyno hysbysiad stop dros dro sy’n ymwneud â heneb gofrestredig ar dir sy’n eiddo eglwysig.

Adran 14 – Gwaharddebau

106.Mae adran 14 yn mewnosod adran newydd 9ZM yn Neddf 1979, sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru wneud cais i’r Uchel Lys neu i’r llys sirol am waharddeb os ydynt o’r farn ei bod yn briodol neu’n hwylus atal toriad gwirioneddol neu doriad dealledig o is-adrannau (1) neu (6) o adran 2 o Ddeddf 1979 (rheoli gwaith sy’n effeithio ar henebion cofrestredig).

Adran 15 – Rheoli gwaith sy’n effeithio ar henebion cofrestredig

107.Mae adran 15 yn mewnosod adran newydd 2(8A) yn Neddf 1979 i addasu un o’r amddiffyniadau i’r drosedd o wneud gwaith anawdurdodedig i heneb gofrestredig.

108.Mae adran 2 o Ddeddf 1979 yn darparu ar gyfer rheoli gwaith sy’n effeithio ar henebion cofrestredig drwy ei gwneud yn ofynnol i gael cydsyniad heneb gofrestredig a chefnogir hynny, yn is-adrannau (1) a (6), gan droseddau. O dan adran 2(8), mae’n amddiffyniad i rai o’r troseddau hynny i’r cyhuddedig brofi, yn ôl pwysau tebygolrwydd, nad oedd yn gwybod ac nad oedd ganddo reswm dros gredu bod yr heneb yn yr ardal yr oedd y gwaith yn effeithio arni, neu fod yr heneb wedi ei chofrestru.

109.Mae adran 15 yn datgymhwyso amddiffyniad adran 2(8) o ran Cymru ac yn rhoi yn ei le yr amddiffyniad newydd yn adran 2(8A). Mae’r amddiffyniad newydd hwn yn ei gwneud yn ofynnol i berson sydd wedi ei gyhuddo o wneud gwaith anawdurdodedig, neu achosi neu ganiatáu gwaith o’r fath, mewn perthynas â heneb gofrestredig yng Nghymru brofi, hefyd, iddo gymryd pob cam rhesymol i ganfod a oedd heneb gofrestredig yn yr ardal yr oedd y gwaith yn effeithio arni. Gallai camau o’r fath gynnwys, er enghraifft, edrych ar wybodaeth sydd ar gael ar-lein ar gyfer y cyhoedd gan Cadw ynghylch lleoliad a rhychwant heneb gofrestredig.

Adran 16 – Difrodi henebion hynafol penodol

110.Mae adran 16 yn diwygio adran 28 o Ddeddf 1979 (y drosedd o ddifrodi henebion hynafol penodol) drwy fewnosod is-adran newydd (1A), sy’n addasu’r drosedd o ddinistrio neu ddifrodi heneb warchodedig. Mae heneb warchodedig (“protected monument”):

i.

yn heneb gofrestredig, neu

ii.

yn heneb o dan berchenogaeth neu warchodaeth Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn rhinwedd Deddf 1979.

111.O dan adran 28(1), mae person sy’n dinistrio neu’n difrodi unrhyw heneb warchodedig heb esgus cyfreithlon, gan wybod ei bod yn heneb warchodedig ac sy’n bwriadu dinistrio neu ddifrodi’r heneb, neu sy’n ddi-hid o ran a fyddai’r heneb yn cael ei dinistrio neu ei difrodi, yn euog o drosedd. Ni fydd person yn troseddu os nad oedd yn gwybod bod yr heneb yn heneb warchodedig.

112.Mae adran 16 yn datgymhwyso trosedd adran 28(1) o ran Cymru ac yn rhoi yn ei lle y drosedd newydd yn adran 28(1A). O dan y drosedd newydd, mae person sy’n dinistrio neu’n difrodi heneb warchodedig heb esgus cyfreithlon yn euog o drosedd os oedd y person yn gwybod neu os yw’n rhesymol y dylai’r person fod wedi gwybod bod yr heneb yn heneb warchodedig ac yn bwriadu difrodi’r heneb neu’n ddi-hid o ran a fyddai’r heneb yn cael ei difrodi neu ei dinistrio.

Adran 17 – Cyfyngiadau ar y defnydd o ddatgelyddion metel

113.O dan adran 42 o Ddeddf 1979 (cyfyngiadau ar y defnydd o ddatgelyddion metel) mae’n drosedd i ddefnyddio datgelydd metel mewn man gwarchodedig yng Nghymru heb gydsyniad ysgrifenedig Gweinidogion Cymru. Mae man gwarchodedig (“protected place”) yn fan:

i.

sy’n safle heneb gofrestredig neu heneb sydd o dan berchenogaeth neu warchodaeth Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn rhinwedd Deddf 1979, neu

ii.

sydd mewn ardal o bwys archaeolegol.

114.O dan adran 42(7), mae’n amddiffyniad i’r cyhuddedig brofi ei fod wedi cymryd yr holl ragofalon rhesymol i ganfod a oedd y man lle y defnyddiwyd y datgelydd metel yn fan gwarchodedig a’i fod yn credu nad oedd y man hwnnw yn fan gwarchodedig. Mae’r amddiffyniad hwn yn gosod cyfrifoldeb ar y cyhuddedig i ddangos bod y rhagofalon priodol wedi eu cymryd, ond nid yw’n profi a oedd cred y cyhuddedig, sef nad oedd y safle yn safle gwarchodedig, yn gred resymol.

115.Mae adran 17 yn datgymhwyso amddiffyniad adran 42(7) o ran Cymru ac yn rhoi yn ei le yr amddiffyniad newydd yn adran 42(8), sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r cyhuddedig brofi bod pob cam rhesymol wedi ei gymryd i ganfod a oedd y man lle y defnyddiwyd y datgelydd metel yn fan gwarchodedig, ac nad oedd yn gwybod bod y man yn fan gwarchodedig, ac nad oedd reswm ganddo dros gredu hynny.

Adran 18 – Cofrestr o barciau a gerddi hanesyddol

116.Mae adran 18(1) yn mewnosod adran newydd 41A yn Rhan 3 o Ddeddf 1979, sy’n gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio a chynnal cofrestr o barciau a gerddi hanesyddol o ddiddordeb hanesyddol arbennig. Mae’r gofrestr hon yn cymryd lle’r gofrestr anstatudol o barciau a gerddi hanesyddol a luniwyd o’r blaen gan Lywodraeth Cymru.

41A Cofrestr o barciau a gerddi hanesyddol yng Nghymru

117.Mae’r diffiniad o barciau a gerddi hanesyddol wedi ei gynnwys yn adran 41A(1) a (2). Mae’n cynnwys parciau, gerddi, tirweddau addurnol sydd wedi eu dylunio, mannau hamdden a thiroedd eraill sydd wedi eu dylunio, a allai gynnwys, er enghraifft, mynwentydd. Wrth nodi parciau a gerddi o ddiddordeb hanesyddol arbennig, mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru benderfynu pa un ai i gynnwys tir sy’n gyfagos i’r tiroedd sy’n cael eu cofrestru neu’n gyffiniol â hwy, neu unrhyw adeilad neu ddŵr ar y tiroedd hynny neu’n gyfagos iddynt neu’n gyffiniol â hwy. Bydd hyn yn caniatáu i farn broffesiynol gael ei harfer wrth ddiffinio’r ffin sydd fwyaf rhesymegol. Er enghraifft, gellid cynnwys mewn cofnod yn y gofrestr fynedfa eang a chrand i dramwyfa, sydd y tu allan i furiau ystad ond sy’n amlwg yn rhan o’r dyluniad. Fel arall, gellid eithrio bloc o stablau neu dŷ gwydr modern o gofnod.

118.Mae adran 41A(3) a (4) yn darparu’r pŵer i Weinidogion Cymru i ychwanegu, dileu neu ddiwygio cofnodion yn y gofrestr, ond wrth wneud hynny rhaid iddynt hysbysu’r perchennog, y meddiannydd a’r awdurdod lleol neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol perthnasol. Mae adran 56 o Ddeddf 1979 (cyflwyno dogfennau) yn gymwys i unrhyw hysbysiad o dan is-adran (4).

119.Mae adran 41A(6) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r gofrestr gyfredol. Cefnogir y gofrestr gan gofnod ar-lein ar gyfer y cyhoedd sy’n seiliedig ar fapiau, lle y caiff yr holl asedau hanesyddol sydd wedi eu dynodi a’u cofrestru’n genedlaethol eu dangos.

120.Mae adran 18(2) yn diwygio adran 50 o Ddeddf 1979 (cymhwyso i dir y Goron) er mwyn caniatáu i barciau a gerddi o ddiddordeb hanesyddol arbennig ar dir y Goron gael eu cynnwys ar y gofrestr o barciau a gerddi hanesyddol yng Nghymru.

Adran 19 – Tir y credir bod heneb hynafol arno: pŵer mynediad

121.Mae adran 19 yn mewnosod adran newydd 26(4) yn Neddf 1979 er mwyn llacio’r gofyniad ar berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru i gael cydsyniad cyn arfer y pŵer mynediad i gynnal cloddiadau.

122.Mae adran 26(1) o Ddeddf 1979 yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i awdurdodi mynediad i unrhyw dir lle y maent yn gwybod, neu y mae ganddynt reswm dros gredu, fod heneb hynafol (a all fod, ond nid oes rhaid iddi fod, yn heneb gofrestredig) at ddiben arolygu’r tir i gofnodi materion o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol. Mae adran 26(2) yn caniatáu i berson sy’n arfer y pŵer mynediad i gynnal cloddiadau yn y tir at ddibenion ymchwiliad archaeolegol. Ond mae’r pŵer i gynnal cloddiadau wedi ei gyfyngu yn adran 26(3) gan y gofyniad i gael cydsyniad y perchennog cyn unrhyw gloddiad.

123.Mae adran newydd 26(4) yn cyfyngu ar gymhwysiad adran 26(3) ac yn galluogi person a awdurdodir gan Weinidogion Cymru i gael mynediad i dir i ymgymryd â chloddiadau archaeolegol heb gydsyniad y tirfeddiannwr os gwyddys, neu os credir, bod heneb hynafol mewn perygl o ddifrod neu ddinistr sydd ar fin digwydd. Gallai amgylchiadau o’r fath godi o ganlyniad i waith anawdurdodedig, neu ddifrod naturiol, er enghraifft, difrod a achosir gan erydiad arfordirol sy’n datguddio olion archaeolegol neu’n eu gwneud yn fregus.

Adran 20 – Henebion mewn dyfroedd tiriogaethol

124.Mae adran 20 yn diwygio adran 53 o Ddeddf 1979 (henebion mewn dyfroedd tiriogaethol) i egluro’r amgylchiadau pan fydd heneb mewn dyfroedd tiriogaethol i gael ei thrin fel pe bai yng Nghymru at ddibenion y Ddeddf. Mae is-adran newydd (2B) yn datgan nad yw heneb mewn dyfroedd tiriogaethol i gael ei thrin fel pe bai yng Nghymru oni bai ei bod yng Nghymru fel y diffinnir “Wales” yn adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae’r diffiniad hwn o Gymru yn cynnwys y môr sy’n gyfagos i Gymru mor bell â ffin tua’r môr y môr tiriogaethol.

Adran 21 – Cyflwyno dogfennau drwy gyfathrebiadau electronig

125.Mae adran 56 o Ddeddf 1979 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyflwyno dogfen drwy:

  • ei dosbarthu i’r person y mae i gael ei chyflwyno iddo;

  • ei gadael ym mhreswylfa arferol y person hwnnw neu yn ei breswylfa hysbys ddiwethaf;

  • ei hanfon mewn llythyr cofrestredig rhagdaledig neu drwy ddosbarthiad cofnodedig; neu

  • ei rhoi ar yr heneb neu ar ryw wrthrych ar safle’r heneb, pan na ellir dod o hyd i gyfeiriad arferol neu gyfeiriad hysbys diwethaf y person.

126.Mae adran 21 yn diwygio adran 56 o Ddeddf 1979 drwy wneud darpariaeth ar gyfer cyflwyno dogfennau drwy ddulliau electronig.

127.Mae adran 21(1) yn mewnosod adran newydd 56(1)(ca) yn Neddf 1979, sy’n caniatáu i unrhyw ddogfennau neu hysbysiadau o dan y Ddeddf gael eu cyflwyno drwy ddulliau electronig o dan amgylchiadau penodedig.

128.Mae adran 21(2) yn mewnosod adran newydd 56(1A) yn Neddf 1979, sy’n nodi gofynion penodol y mae rhaid i ddogfennau a gyflwynir yn electronig gydymffurfio â hwy.

Adran 22 – Ystyr “monument” yn Neddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979

129.Mae adran 22 yn diwygio’r diffiniad o heneb (“monument”) yn is-adran (7) o adran 61 o Ddeddf 1979 (dehongli) er mwyn cynnwys safleoedd sy’n darparu tystiolaeth o weithgarwch dynol yn y gorffennol ond lle nad oes adeileddau neu waith.

130.Nid yw llawer o’r safleoedd archaeolegol pwysig yng Nghymru, yn enwedig y rhai hynny o gyfnodau Palaeolithig a Mesolithig pell, yn cynnwys dim byd mwy na gwasgariad arteffactau neu olion disylwedd eraill o weithgarwch dynol.

131.Bydd adran newydd 61(7)(d) yn galluogi i safleoedd o bwys cenedlaethol sy’n darparu tystiolaeth o weithgarwch dynol yn y gorffennol gael eu dynodi’n henebion cofrestredig gan Weinidogion Cymru.

132.Mae adran 22(3) yn cymhwyso diffiniad Deddf Llywodraeth Cymru 2006 o Gymru (“Wales”) i ganiatáu cofrestru safleoedd lle nad oes adeileddau sydd mor bell â ffin tua’r môr y môr tiriogaethol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources