xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae pum Rhan i’r Ddeddf hon.
(2)Mae’r Rhan hon yn rhoi trosolwg o’r Ddeddf hon.
(3)Mae Rhan 2 yn gwneud diwygiadau i Ddeddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 (p.46), yn bennaf mewn perthynas â henebion hynafol yng Nghymru. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru lunio a chynnal cofrestr o barciau a gerddi hanesyddol.
(4)Mae Rhan 3 yn gwneud diwygiadau i Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (p.9) mewn perthynas ag adeiladau yng Nghymru sydd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig (“adeiladau rhestredig”).
(5)Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth arall ynghylch yr amgylchedd hanesyddol yng Nghymru, gan gynnwys darpariaeth—
(a)ar gyfer llunio rhestr o enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru (adran 34),
(b)ar gyfer llunio cofnod amgylchedd hanesyddol ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru (adrannau 35 i 37), a
(c)ar gyfer sefydlu’r Panel Cynghori ar Amgylchedd Hanesyddol Cymru, cyfansoddiad y panel hwnnw a’i swyddogaethau (adrannau 38 a 39).
(6)Mae Rhan 5 yn cynnwys darpariaeth sy’n gymwys yn gyffredinol at ddibenion y Ddeddf hon.