Search Legislation

Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

This is the original version (as it was originally enacted).

Amrywiol

32Cyflwyno dogfennau drwy gyfathrebiadau electronig

Yn adran 89 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (p.9) (cymhwyso darpariaethau cyffredinol penodol y brif Ddeddf), yn is-adran (1A), ar y dechrau mewnosoder “In the case of a building situated in England,”.

33Penderfynu ar apelau gan berson a benodir: darpariaeth atodol

(1)Yn Atodlen 3 i Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (p.9) (penderfynu ar apelau penodol gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru), ym mharagraff 7, yn is-baragraff (2)—

(a)yn y geiriau agoriadol, hepgorer “or the Welsh Office”; a

(b)hepgorer paragraff (b) a’r “and” sydd o’i flaen.

(2)Yn y paragraff hwnnw o’r Atodlen honno, ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

(3)Where an appointed person is a member of the staff of the Welsh Government, the functions of determining an appeal and doing anything in connection with it conferred on the person by this Schedule are to be treated for the purposes of the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2005 as functions of the Welsh Government.

Back to top

Options/Help