Search Legislation

Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Trosolwg

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 04/11/2024

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 21/03/2016.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, Croes Bennawd: Trosolwg. Help about Changes to Legislation

TrosolwgLL+C

23Trosolwg o’r Rhan honLL+C

Mae’r Rhan hon yn ymwneud â gwarchod adeiladau yng Nghymru sydd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Mae’n gwneud darpariaeth—

(a)i Weinidogion Cymru ymgynghori cyn cynnwys adeilad mewn rhestr o adeiladau, neu eithrio adeilad o restr o adeiladau, o dan adran 1 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (p.9) (“Deddf 1990”) (adran 24);

(b)i roi gwarchodaeth statudol i adeilad wrth i Weinidogion Cymru benderfynu pa un ai i gynnwys yr adeilad mewn rhestr (adran 24);

(c)i Weinidogion Cymru adolygu eu penderfyniad i gynnwys adeilad mewn rhestr (adran 24);

(d)ar gyfer addasu’r trefniadau rhestru dros dro a gychwynnir drwy gyflwyno hysbysiad diogelu adeilad yng ngoleuni’r ddarpariaeth a grybwyllir ym mharagraffau (a) a (b) (adran 25);

(e)i Weinidogion Cymru ardystio nad ydynt yn bwriadu cynnwys adeilad penodol mewn rhestr (adran 27);

(f)i awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru ymrwymo i gytundeb â pherchennog adeilad rhestredig ynghylch materion megis cydsyniad i waith gael ei wneud i’r adeilad (adran 28);

(g)i awdurdod cynllunio lleol ddyroddi hysbysiad stop dros dro mewn achos sy’n ymwneud â gwaith penodol i adeilad rhestredig (adran 29);

(h)i estyn cwmpas y gwaith brys y caiff awdurdod cynllunio lleol ei wneud o dan Ddeddf 1990 ac i ddarparu i gostau’r awdurdod wrth wneud y gwaith hwnnw fod yn adenilladwy fel pridiant tir lleol (adran 30);

(i)i alluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch camau pellach y caniateir iddynt gael eu cymryd i sicrhau bod adeiladau rhestredig yng Nghymru sydd wedi mynd i gyflwr gwael yn cael eu diogelu’n briodol (adran 31);

(j)i alluogi cyflwyno drwy gyfathrebiadau electronig fathau penodol o hysbysiadau a dogfennau eraill sy’n ymwneud ag adeiladau rhestredig (adran 32);

(k)mewn perthynas â phenderfynu ar apelau penodol sy’n ymwneud ag adeiladau rhestredig gan bersonau a benodir gan Weinidogion Cymru (adran 33).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 23 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 41(1)(d)

Back to top

Options/Help