39Cyfansoddiad etc
(1)Mae aelodau’r Panel Cynghori ar Amgylchedd Hanesyddol Cymru i’w penodi ar unrhyw delerau ac amodau y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu arnynt.
(2)Ni chaniateir i aelodaeth y Panel fod yn fwy na 15 o bersonau.
(3)Nid yw’r Panel i’w ystyried yn was nac yn asiant i’r Goron nac ychwaith i’w ystyried yn un sy’n mwynhau unrhyw statws, imiwnedd na braint sydd gan y Goron.
(4)Nid yw swydd wag ymhlith aelodau’r Panel yn effeithio ar ddilysrwydd gweithred ganddo.
(5)Caiff Gweinidogion Cymru dalu i aelod o’r Panel unrhyw ffioedd, lwfansau neu dreuliau y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu arnynt.
(6)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu unrhyw staff, llety neu gyfleusterau eraill sy’n angenrheidiol ym marn Gweinidogion Cymru er mwyn galluogi’r Panel i gyflawni ei swyddogaethau.
(7)Mae person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o’r Panel os yw’r person—
(a)yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru,
(b)yn aelod o Dŷ’r Cyffredin neu Dŷ’r Arglwyddi,
(c)yn aelod o Senedd yr Alban,
(d)yn aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon,
(e)yn aelod o Senedd Ewrop,
(f)yn aelod o gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru,
(g)yn aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru, neu
(h)yn aelod o staff sefydliad a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
(8)Yn unol â hynny, ni chaniateir i berson sydd wedi ei anghymhwyso gael ei benodi’n aelod o’r Panel; ac mae person a benodir felly ac sy’n cael ei anghymhwyso yn peidio â bod yn aelod.
(9)Caiff Gweinidogion Cymru ddiswyddo aelod o’r Panel os ydynt wedi eu bodloni—
(a)bod yr aelod yn anaddas i barhau fel aelod,
(b)nad yw’r aelod yn gallu neu’n fodlon gweithredu fel aelod, neu
(c)bod yr aelod wedi dwyn anfri ar y Panel.
(10)Caiff aelod o’r Panel ymddiswyddo drwy roi dim llai na thri mis o rybudd ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.