RHAN 5CYFFREDINOL
41Dod i rym
1
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf hon i rym ar y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—
a
Rhan 1;
b
adran 2;
c
adrannau 3, 5 ac 11 ac Atodlen 1, i’r graddau y maent yn rhoi pŵer i wneud rheoliadau o dan Ddeddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 (p.46);
d
adran 23;
e
adrannau 24 ac 28 ac Atodlen 2, i’r graddau y maent yn rhoi pŵer i wneud rheoliadau o dan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (p.9);
f
y Rhan hon.
2
Daw adrannau 6 i 9, 12 i 17, 19 i 22, 27, 29, 30(1) i (5), 32 a 33 i rym ar ddiwedd y cyfnod o 2 fis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
3
Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym, a daw adrannau 3, 5, 11, 24 ac 28 ac Atodlenni 1 a 2 i rym at y dibenion sy’n weddill, ar unrhyw ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.
4
Caiff gorchymyn o dan is-adran (3)—
a
pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol;
b
gwneud darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â dyfodiad darpariaeth yn y Ddeddf hon i rym.
5
Rhaid i orchymyn o dan is-adran (3) gael ei wneud drwy offeryn statudol.