RHAN 5COSBAU
PENNOD 2COSBAU AM FETHU Â DYCHWELYD FFURFLENNI NEU DALU TRETH F2NEU SYMIAU SY’N DALADWY MEWN CYSYLLTIAD Â CHREDYDAU TRETH
Annotations:
Amendments (Textual)
F1Cosb am fethu â thalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth
Annotations:
Amendments (Textual)
F1
A. 123A ac croes-bennawd wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 25
123ACosb am fethu â thalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth mewn pryd
1
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’n ofynnol i berson dalu swm o ganlyniad i asesiad ACC a wneir o dan adran 55A.
2
Mae person yn agored i gosb os yw’n yn methu â thalu’r swm ar y dyddiad cosbi neu cyn hynny.
3
Y dyddiad cosbi yw’r dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod erbyn pryd yr oedd yn ofynnol talu’r swm.
4
Y gosb yw 5% o’r swm sy’n daladwy o ganlyniad i’r asesiad ACC.
Geiriau yn Rhn. 5 Pnd. 2 pennawd wedi eu mewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 23