xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Rhn. 5 Pnd. 2 pennawd wedi eu mewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 23
Diwygiadau Testunol
F2A. 123A ac croes-bennawd wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 25
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’n ofynnol i berson dalu swm o ganlyniad i asesiad ACC a wneir o dan adran 55A.
(2)Mae person yn agored i gosb os yw’n yn methu â thalu’r swm ar y dyddiad cosbi neu cyn hynny.
(3)Y dyddiad cosbi yw’r dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod erbyn pryd yr oedd yn ofynnol talu’r swm.
(4)Y gosb yw 5% o’r swm sy’n daladwy o ganlyniad i’r asesiad ACC.]