RHAN 2AWDURDOD CYLLID CYMRU

Siarter safonau a gwerthoedd

I2I126Siarter safonau a gwerthoedd

1

Rhaid i ACC baratoi Siarter.

2

Rhaid i’r Siarter gynnwys—

a

safonau gwasanaeth, safonau ymddygiad a gwerthoedd y disgwylir i ACC gadw atynt wrth ymdrin â threthdalwyr datganoledig, eu hasiantiaid a phersonau eraill wrth arfer ei swyddogaethau, a

b

safonau ymddygiad a gwerthoedd y mae ACC yn disgwyl i drethdalwyr datganoledig, eu hasiantiaid a phersonau eraill gadw atynt wrth ymdrin ag ACC.

3

Rhaid i ACC

a

cyhoeddi’r Siarter,

b

adolygu’r Siarter—

i

o leiaf unwaith yn y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y cyhoeddir y Siarter, a

ii

wedi hynny, o leiaf unwaith yn y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dilyn adolygiad⁠, ac

c

diwygio’r Siarter pan fo’n briodol gwneud hynny, ym marn ACC, a chyhoeddi’r Siarter ddiwygiedig.

4

Cyn cyhoeddi’r Siarter neu Siarter ddiwygiedig rhaid i ACC ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn ei farn.

5

Rhaid i ACC osod y Siarter ac unrhyw Siarter ddiwygiedig gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

6

Rhaid cyhoeddi’r Siarter gyntaf o fewn 3 mis i’r adran hon ddod i rym.