Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

SwyddogaethauLL+C

12Prif swyddogaethauLL+C

(1)Swyddogaeth gyffredinol ACC yw casglu a rheoli trethi datganoledig.

(2)Mae gan ACC y swyddogaethau penodol a ganlyn—

(a)darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth yn ymwneud â threthi datganoledig i Weinidogion Cymru;

(b)darparu gwybodaeth a chymorth yn ymwneud â threthi datganoledig i drethdalwyr datganoledig, eu hasiantiaid a phersonau eraill;

(c)datrys cwynion ac anghydfodau yn ymwneud â threthi datganoledig;

(d)hybu cydymffurfedd â’r gyfraith sy’n ymwneud â threthi datganoledig ac amddiffyn rhag efadu trethi ac osgoi trethi mewn perthynas â threthi datganoledig.

(3)Rhaid i ACC ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth, unrhyw gyngor neu unrhyw gymorth yn ymwneud â’i swyddogaethau y caiff Gweinidogion Cymru eu gwneud yn ofynnol o bryd i’w gilydd ar unrhyw ffurf y bydd Gweinidogion Cymru yn ei phennu.

(4)Yn ychwanegol at unrhyw bwerau eraill sydd ganddo, caiff ACC wneud unrhyw beth sydd, yn ei farn ef—

(a)yn angenrheidiol neu’n hwylus mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau, neu

(b)yn atodol i arfer y swyddogaethau hynny neu’n ffafriol i hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 12 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

13Awdurdodiad mewnol i gyflawni swyddogaethauLL+C

(1)Caiff ACC awdurdodi’r canlynol i gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau (i unrhyw raddau)—

(a)aelod o ACC,

(b)pwyllgor o ACC neu is-bwyllgor o bwyllgor o’r fath, neu

(c)prif weithredwr ACC neu unrhyw aelod arall o staff ACC.

(2)Ond ni chaiff ACC awdurdodi pwyllgor neu is-bwyllgor i gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau (i unrhyw raddau) oni bai bod o leiaf un o aelodau’r pwyllgor neu’r is-bwyllgor yn aelod anweithredol o ACC.

(3)Nid yw’r awdurdodiad i gyflawni swyddogaeth o dan yr adran hon yn effeithio ar—

(a)gallu ACC i arfer y swyddogaeth, na

(b)cyfrifoldeb ACC dros arfer y swyddogaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I4A. 13 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

14Dirprwyo swyddogaethauLL+C

(1)Caiff ACC ddirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau i unrhyw berson a ragnodir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(2)Caiff ACC roi cyfarwyddydau i berson y dirprwywyd unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau iddo ynghylch sut y mae’r swyddogaethau dirprwyedig i’w harfer a rhaid i’r person y dirprwywyd y swyddogaethau iddo gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd o’r fath.

(3)Caniateir amrywio neu ddirymu dirprwyaethau neu gyfarwyddydau o dan yr adran hon unrhyw bryd.

(4)Rhaid i ACC gyhoeddi gwybodaeth ynghylch—

(a)dirprwyaethau o dan yr adran hon, a

(b)cyfarwyddydau o dan yr adran hon.

(5)Nid yw is-adran (4) yn gymwys i’r graddau y mae ACC o’r farn y byddai cyhoeddi gwybodaeth yn niweidio ei allu i arfer ei swyddogaethau yn effeithiol.

(6)Nid yw dirprwyo swyddogaeth o dan yr adran hon yn effeithio ar—

(a)gallu ACC i arfer y swyddogaeth, na

(b)cyfrifoldeb ACC dros arfer y swyddogaeth.

(7)Caiff ACC wneud taliadau i berson y dirprwywyd unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau iddo mewn cysylltiad ag arfer y swyddogaethau dirprwyedig gan y person.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I6A. 14 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

15Cyfarwyddydau cyffredinolLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddydau o natur gyffredinol i ACC.

(2)Rhaid i ACC, wrth arfer ei swyddogaethau, gydymffurfio â chyfarwyddydau a roddir o dan is-adran (1).

(3)Ni chaiff cyfarwyddydau a roddir o dan is-adran (1) ymwneud ag arfer y swyddogaethau yn adrannau 29 na 30.

(4)Caniateir amrywio neu ddirymu cyfarwyddydau o dan yr adran hon unrhyw bryd.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw gyfarwyddydau a roddir o dan is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I8A. 15 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2