xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CFFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU

PENNOD 2LL+CDYLETSWYDDAU F1... I GADW COFNODION A’U STORIO’N DDIOGEL

38[F2Dyletswydd i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel: achosion pan fo’n ofynnol dychwelyd ffurflen dreth]LL+C

(1)Rhaid i berson y mae’n ofynnol iddo ddychwelyd ffurflen dreth—

(a)cadw unrhyw gofnodion y gall fod eu hangen er mwyn galluogi’r person i [F3ddangos bod y ffurflen dreth yn gywir ac yn gyflawn,]

[F4(b)storio unrhyw gofnodion y gall fod eu hangen at y diben hwnnw yn ddiogel.]

(2)Rhaid storio’r cofnodion yn ddiogel hyd ddiwedd yr hwyraf o’r [F5dyddiad] perthnasol—

(a)a’r [F5dyddiad] y cwblheir ymholiad i’r ffurflen dreth (gweler adran 50), neu

(b)os nad oes ymholiad, a’r [F5dyddiad] pan [F6fydd cyfnod yr ymholiad yn dod i ben (gweler adran 43(1A)).]

[F7(3)Ystyr y “dyddiad perthnasol” yw 6 mlynedd i ba un bynnag o’r canlynol sydd hwyraf—

(a)y dyddiad ffeilio, a

(b)os dychwelwyd y ffurflen dreth a’i diwygio wedi hynny o dan adran 41, y dyddiad y rhoddir hysbysiad o’r diwygiad o dan yr adran honno.

(3A)Ond os yw ACC yn pennu dyddiad cynharach o dan yr is-adran hon, ystyr y “dyddiad perthnasol” yw’r dyddiad a bennir.]

(4)Caniateir pennu [F8dyddiadau] gwahanol at ddibenion gwahanol o dan is-adran [F9(3A)] .

[F10(5)Yn y Bennod hon, mae “cofnodion” yn cynnwys dogfennau ategol (er enghraifft, cyfrifon, llyfrau, gweithredoedd, contractau, talebau a derbynebau).]

F11(6). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F12(7). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F13(8). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 38 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 38 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

[F1438ADyletswydd i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel: trafodiadau tir nad oes angen dychwelyd ffurflen dreth mewn cysylltiad â hwyLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad tir, ac eithrio trafodiad o fath a restrir yn adran 65(4) o DTTT, nad yw’n ofynnol dychwelyd ffurflen dreth mewn cysylltiad ag ef.

(2)Rhaid i’r prynwr mewn trafodiad tir y mae’r adran hon yn gymwys iddo—

(a)cadw unrhyw gofnodion y gall fod eu hangen i alluogi’r prynwr i ddangos nad yw’n ofynnol dychwelyd ffurflen dreth, a

(b)storio unrhyw gofnodion y gall fod eu hangen at y diben hwnnw yn ddiogel.

(3)Rhaid storio’r cofnodion yn ddiogel hyd ddiwedd y dyddiad perthnasol.

(4)Y “dyddiad perthnasol” yw chwe mlynedd i’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

(5)Ond os yw ACC yn pennu dyddiad cynharach o dan yr is-adran hon, y “dyddiad perthnasol” yw’r dyddiad a bennir.

(6)Caniateir pennu dyddiau gwahanol at ddibenion gwahanol o dan is-adran (5).

(7)Yn is-adran (4), mae i’r “dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith” yr un ystyr ag yn DTTT.]

39Storio gwybodaeth etc. yn ddiogelLL+C

[F15(1)] Caiff y ddyletswydd o dan adran 38 [F16neu 38A] i storio cofnodion yn ddiogel ei chyflawni—

(a)drwy eu storio’n ddiogel ar unrhyw ffurf ac mewn unrhyw fodd, neu

(b)drwy storio’r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys ynddynt yn ddiogel ar unrhyw ffurf ac mewn unrhyw fodd, yn ddarostyngedig i unrhyw amodau neu eithriadau a ragnodir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

[F17(2)Ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad a bennir o dan adran 21(7) (cofnod disgownt dŵr) neu 43(2) (crynodeb treth gwarediadau tirlenwi) o DTGT.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 39 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I4A. 39 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

[F1839APŵer i wneud rheoliadau ynghylch cofnodionLL+C

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu bod y cofnodion y mae’n ofynnol eu cadw a’u storio’n ddiogel o dan y Bennod hon yn cynnwys cofnodion o ddisgrifiad a ragnodir gan y rheoliadau, neu ddarparu nad ydynt yn cynnwys cofnodion o’r fath.]