RHAN 3FFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU

PENNOD 4YMHOLIADAU ACC

Diwygio ffurflen dreth yn ystod ymholiad

I1I245Diwygio ffurflen dreth yn ystod ymholiad er mwyn osgoi colli treth

1

Os yw ACC yn dod i’r casgliad, yn ystod y cyfnod y mae ymholiad i ffurflen dreth yn mynd rhagddo—

a

bod y swm a nodir ar y ffurflen dreth fel swm y dreth ddatganoledig F3sydd i’w godi yn annigonol, a

b

ei bod yn debygol, oni bai y diwygir y ffurflen ar unwaith, y bydd treth ddatganoledig yn cael ei cholli,

caiff ACC ddiwygio’r ffurflen dreth er mwyn gwneud iawn am yr annigonolrwydd drwy ddyroddi hysbysiad i’r person a’i dychwelodd.

F51A

Os yw ACC, yn ystod y cyfnod pan fo ymholiad i ffurflen dreth yn mynd rhagddo, yn dod i’r casgliad—

a

bod swm y credyd treth a hawliwyd yn y ffurflen dreth yn ormodol, a

b

ei bod yn debygol, oni chaiff y ffurflen dreth ei diwygio ar unwaith, y collir treth ddatganoledig,

caiff ACC ddiwygio’r ffurflen dreth drwy ddyroddi hysbysiad i’r person a’i dychwelodd fel nad yw’r swm a hawlir yn ormodol mwyach.

2

Os yw’r ymholiad yn un sydd wedi ei gyfyngu gan adran 44(2) i faterion sy’n deillio o ddiwygiad i’r ffurflen dreth,

F7a

nid yw is-adran (1) yn gymwys ond i’r graddau y gellir priodoli’r annigonolrwydd i’r diwygiad F1, a

b

nid yw is-adran (1A) yn gymwys ond i’r graddau y mae’r swm gormodol i’w briodoli i’r diwygiad.

3

Os dyroddir hysbysiad o dan F4neu (1A), ni chaiff y person a ddychwelodd y ffurflen dreth ei diwygio mwyach o dan 41.

4

Rhaid i’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth dalu unrhyw swm, neu swm ychwanegol, o dreth ddatganoledig sy’n daladwy o ganlyniad i’r diwygiad cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad am y diwygiad.

5

At ddibenion yr adran hon ac F2adrannau 45A a 46 y cyfnod y mae ymholiad i ffurflen dreth yn mynd rhagddo yw’r cyfnod cyfan—

a

sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad ymholiad ynghylch y ffurflen dreth, a

b

sy’n dod i ben â’r diwrnod y cwblheir yr ymholiad (gweler adran 50).

45AF6Trethdalwr yn diwygio ffurflen dreth pan fydd ymholiad yn mynd rhagddo

1

Mae’r adran hon yn gymwys os yw person sydd wedi dychwelyd ffurflen dreth yn ei diwygio yn ystod y cyfnod pan fydd ymholiad i’r ffurflen dreth yn mynd rhagddo.

2

At ddibenion adran 44 (cwmpas ymholiad), mae’r diwygiad i’w drin fel rhywbeth a gynhwysir ar y ffurflen dreth.

3

Mae’r diwygiad yn cael effaith ar y diwrnod y mae’r ymholiad yn cael ei gwblhau oni bai bod ACC yn datgan yn yr hysbysiad cau a ddyroddir o dan adran 50—

a

bod y diwygiad wedi ei ystyried wrth lunio’r diwygiadau sy’n ofynnol i roi effaith i gasgliadau ACC, neu

b

mai casgliad ACC yw bod y diwygiad yn anghywir.