RHAN 3FFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU

PENNOD 5DYFARNIADAU ACC

52Dyfarniad o’r dreth sydd i’w chodi os na ddychwelir ffurflen dreth

1

Mae’r adran hon yn gymwys—

a

pan fo gan ACC reswm i gredu bod treth ddatganoledig i’w chodi ar berson,

b

pan na fo’r person wedi dychwelyd ffurflen dreth mewn perthynas â’r dreth ddatganoledig sydd i’w chodi, ac

c

pan fo’r dyddiad ffeilio perthnasol wedi mynd heibio.

2

Ystyr “y dyddiad ffeilio perthnasol” yw’r dyddiad erbyn pryd y mae ACC yn credu yr oedd yn ofynnol dychwelyd ffurflen dreth.

3

Caiff ACC wneud dyfarniad (“dyfarniad ACC”) ynghylch swm y dreth ddatganoledig sydd i’w chodi ar y person, ym marn ACC.

4

Rhaid dyroddi hysbysiad am y dyfarniad i’r person.

5

Rhaid i’r person dalu’r dreth ddatganoledig sy’n daladwy o ganlyniad i ddyfarniad ACC cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad am y dyfarniad.

6

Ni chaniateir gwneud dyfarniad ACC dros 4 blynedd ar ôl y dyddiad perthnasol.

7

Y dyddiad perthnasol yw—

a

y dyddiad ffeilio perthnasol, neu

b

unrhyw ddyddiad arall y caiff Gweinidogion Cymru ei ragnodi drwy reoliadau.

53Ffurflen dreth yn disodli dyfarniad

1

Os yw’r person yr oedd gan ACC reswm i gredu bod treth ddatganoledig i’w chodi arno yn dychwelyd ffurflen dreth mewn perthynas â’r dreth ar ôl i ddyfarniad ACC gael ei wneud, mae’r ffurflen yn disodli’r dyfarniad.

2

Ond nid yw is-adran (1) yn gymwys i ffurflen dreth a ddychwelwyd—

a

dros 4 blynedd ar ôl i’r pŵer i wneud dyfarniad ACC ddod yn arferadwy gyntaf, neu

b

dros 12 mis ar ôl y diwrnod y dyroddwyd hysbysiad am y dyfarniad,

pa un bynnag sydd hwyraf.

3

Pan fo—

a

achos wedi ei gychwyn i adennill unrhyw dreth ddatganoledig a godwyd gan ddyfarniad ACC, a

b

ffurflen dreth yn disodli’r dyfarniad cyn i’r achos ddod i ben,

caniateir parhau â’r achos fel pe bai’n achos i adennill cymaint o’r dreth ddatganoledig a godir gan y ffurflen dreth ag y mae’n ofynnol ei dalu ac nad yw wedi ei dalu eto.