RHAN 3FFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU
PENNOD 6ASESIADAU ACC
Asesu treth a gollir neu ad-daliad gormodol
I1I454Asesu treth a gollir
Os daw ACC i’r casgliad—
a
nad aseswyd swm o dreth ddatganoledig y dylid bod wedi ei asesu fel treth ddatganoledig sydd i’w chodi ar berson,
b
bod asesiad o’r dreth ddatganoledig sydd i’w chodi ar berson yn annigonol neu wedi dod yn annigonol, neu
c
bod F3rhyddhad mewn perthynas â threth ddatganoledig wedi ei hawlio neu wedi ei roi, sy’n ormodol neu wedi dod yn ormodol,
caiff ACC asesu’r swm neu’r swm pellach y dylid ei godi yn ei farn ef er mwyn gwneud iawn am y dreth ddatganoledig a gollir.
I5I255Asesiad i adennill ad-daliad treth gormodol
1
Os ad-dalwyd swm o dreth ddatganoledig i berson, ond na ddylid bod wedi ei ad-dalu iddo, caniateir asesu ac adennill y swm hwnnw fel pe bai’n dreth ddatganoledig nas talwyd.
2
Os gwnaed yr ad-daliad gyda llog, caiff y swm a asesir ac a adenillir gynnwys swm y llog na ddylid bod wedi ei dalu.
55AF1Asesiad mewn perthynas â chredyd treth
Os yw ACC yn dod i’r casgliad—
a
mewn perthynas â swm o gredyd treth sydd wedi ei osod yn erbyn swm o dreth y byddai fel arall wedi bod yn ofynnol i berson ei dalu—
i
na ddylid fod wedi ei osod yn erbyn y swm o dreth, neu
ii
ei fod wedi mynd yn ormodol,
b
mewn perthynas â swm a dalwyd i berson mewn cysylltiad â chredyd treth—
i
na ddylid fod wedi ei dalu, neu
ii
ei fod wedi mynd yn ormodol, neu
c
nad yw swm y mae’n ofynnol i berson ei dalu i ACC mewn cysylltiad â chredyd treth wedi ei dalu,
caiff ACC wneud asesiad o’r swm y dylid bod wedi ei dalu i ACC, ym marn ACC, er mwyn unioni’r mater.
I6I356Cyfeiriadau at “asesiad ACC”
Yn y Ddeddf hon, ystyr “asesiad ACC” yw asesiad o dan adran 54 F2, 55 neu 55A.