RHAN 3FFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU
C2C1PENNOD 7F8RHYDDHAD YN ACHOS ASESIAD GORMODOL NEU DRETH A ORDALWYD
Rhn. 3 Pnd. 7 cymhwyswyd (gydag addasiadau) (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 6 para. 14(2); O.S. 2018/34, ergl. 3
Rhn. 3 Pnd. 7 cymhwyswyd (gydag addasiadau) (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), aau. 48(3), 81(2)(3); O.S. 2018/34, ergl. 3
Asesiad dwbl
I6I762Hawlio ymwared yn achos asesiad dwbl
Caiff person sy’n credu bod treth ddatganoledig wedi ei hasesu ar y person hwnnw fwy nag unwaith mewn perthynas â’r un mater wneud hawliad i ACC am ymwared rhag unrhyw dreth a godir ddwywaith.
Treth a ordalwyd etc.
I12I863Hawlio F20rhyddhad rhag treth a ordalwyd etc.
1
Mae’r adran hon yn gymwys—
a
pan fo person wedi talu swm o dreth ddatganoledig ond yn credu nad oedd y dreth ddatganoledig i’w chodi arno, neu
b
pan aseswyd bod swm o dreth ddatganoledig i’w godi ar berson, neu pan fo dyfarniad F16ACC wedi ei wneud bod swm o dreth ddatganoledig i’w godi ar berson, ond bod y person yn credu na ddylid codi’r dreth ddatganoledig arno.
2
Caiff y person wneud hawliad i ACC ad-dalu’r swm neu F19ollwng y swm.
3
4
At ddibenion yr adran hon ac adrannau F463A i 81, trinnir swm a delir gan un person ar ran person arall fel swm a dalwyd gan y person arall.
63AF1Hawlio rhyddhad mewn cysylltiad â threth trafodiadau tir: rheoliadau yn peidio â chael effaith
1
Os yw—
a
yn rhinwedd adran 26(2) o DTTT, y bandiau treth a’r cyfraddau treth a bennir mewn rheoliadau a wrthodir yn gymwys i drafodiad trethadwy, a
b
o ganlyniad, swm y dreth trafodiadau tir sydd i’w godi mewn cysylltiad â’r trafodiad yn fwy na’r swm a fyddai wedi bod i’w godi fel arall,
caiff y prynwr yn y trafodiad wneud hawliad i ACC am ollwng neu ad-dalu’r swm o dreth trafodiadau tir na fyddai wedi bod i’w godi pe na bai’r rheoliadau a wrthodir wedi eu gwneud.
2
Pan fo ACC yn penderfynu rhoi effaith i hawliad o dan is-adran (1) rhaid iddo hefyd ollwng neu ad-dalu unrhyw gosb neu log sy’n perthyn i’r swm o dreth a ollyngir neu a ad-delir.
3
Mae unrhyw gosb neu log yn perthyn i swm o dreth at y diben hwn i’r graddau—
a
y mae i’w phriodoli neu i’w briodoli i’r swm, a
b
na fyddid wedi mynd iddo oni bai am gymhwyso’r bandiau treth a’r cyfraddau treth a bennir yn y rheoliadau a wrthodir i’r trafodiad o dan sylw.
4
Rhaid i hawliad o dan is-adran (1) gael ei wneud cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r hwyraf o—
a
y dyddiad y mae’r rheoliadau a wrthodir yn peidio â chael effaith, neu
b
dyddiad ffeilio ffurflen dreth sy’n cynnwys asesiad o’r dreth sydd i’w chodi a gyfrifir gan ddefnyddio’r bandiau treth a’r cyfraddau treth a bennir yn y rheoliadau a wrthodir.
5
Mae hawliad o dan is-adran (1) i’w drin fel pe bai’n ddiwygiad a wneir o dan adran 41 i’r asesiad o’r dreth sydd i’w chodi sydd wedi ei gynnwys mewn ffurflen dreth.
6
Yn yr adran hon—
mae i “rheoliadau a wrthodir” (“rejected regulations”) yr ystyr a roddir gan adran 26(1)(a) o DTTT;
mae i “trafodiad trethadwy” (“chargeable transaction”) yr ystyr a roddir gan adran 17 o’r Ddeddf honno.
Cyfoethogi anghyfiawn
I2I4C364F11Gwrthod hawliadau am ryddhad oherwydd cyfoethogi anghyfiawn
I5I1065Cyfoethogi anghyfiawn: darpariaeth bellach
1
Mae’r adran hon yn gymwys—
a
pan fo swm a dalwyd ar ffurf treth ddatganoledig a fyddai (ar wahân i adran 64) i’w ad-dalu i unrhyw berson (“y trethdalwr”) neu F22i’w ollwng, a
b
pan fo holl gost neu ran o gost talu’r swm hwnnw i ACC wedi ei hysgwyddo, at ddibenion ymarferol, gan berson heblaw’r trethdalwr.
2
Pan fo, mewn achos y mae’r adran hon yn gymwys iddo, golled neu niwed wedi dod i ran y trethdalwr, neu y gallai colled neu niwed ddod i’w ran, o ganlyniad i ragdybiaethau anghywir a wnaed yn achos y trethdalwr am y ffordd y mae unrhyw ddarpariaethau yn ymwneud â threth ddatganoledig yn gweithredu, mae’r golled honno i’w diystyru neu’r niwed hwnnw i’w ddiystyru, ac eithrio i raddau’r swm sydd wedi ei feintioli, wrth wneud unrhyw ddyfarniad—
a
o ba un a fyddai neu i ba raddau y byddai ad-dalu swm i’r trethdalwr neu F23ollwng y swm yn cyfoethogi’r trethdalwr, neu
b
o ba un a fyddai neu i ba raddau y byddai unrhyw gyfoethogiad o ran y trethdalwr yn annheg.
3
Yn is-adran (2) ystyr “y swm sydd wedi ei feintioli” yw’r swm (os o gwbl) y mae’r trethdalwr yn dangos ei fod y swm a fyddai’n digolledu’r trethdalwr yn briodol am golled neu niwed y dengys y trethdalwr iddo ddod i ran y trethdalwr yn sgil gwneud y rhagdybiaethau anghywir.
4
Mae’r cyfeiriad yn is-adran (2) at ddarpariaethau sy’n ymwneud â threth ddatganoledig yn gyfeiriad at unrhyw ddarpariaethau—
a
mewn unrhyw ddeddfiad neu ddeddfwriaeth yr UE (boed mewn grym o hyd ai peidio) sy’n berthnasol i’r dreth ddatganoledig neu i unrhyw fater sy’n gysylltiedig â hi, neu
b
mewn unrhyw hysbysiad a gyhoeddir gan ACC o dan neu at ddibenion unrhyw ddeddfiad o’r fath.
I3I166Cyfoethogi anghyfiawn: trefniadau talu’n ôl
1
Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau i drefniadau talu’n ôl a wneir gan unrhyw berson gael eu diystyru at ddibenion adran 64 ac eithrio pan fo’r trefniadau—
a
yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth a gaiff ei rhagnodi gan y rheoliadau, a
b
wedi eu cefnogi gan unrhyw ymrwymiadau i gydymffurfio â darpariaethau’r trefniadau ag y bo’n ofynnol eu rhoi i ACC yn ôl y rheoliadau.
2
Yn yr adran hon, ystyr “trefniadau talu’n ôl” yw unrhyw drefniadau at ddibenion hawliad o dan adran 63 F13neu 63A—
a
a wneir gan unrhyw berson at ddiben sicrhau na chaiff y person ei gyfoethogi’n annheg yn sgil ad-dalu neu F14ollwng unrhyw swm yn unol â’r hawliad, a
b
sy’n darparu ar gyfer talu’n ôl i bersonau sydd at ddibenion ymarferol wedi ysgwyddo holl gost neu ran o gost y taliad gwreiddiol o’r swm hwnnw i ACC.
3
Mae’r ddarpariaeth a gaiff ei rhagnodi drwy reoliadau o dan yr adran hon ar gyfer ei chynnwys mewn trefniadau talu’n ôl yn cynnwys yn benodol—
a
darpariaeth sy’n gwneud taliad yn ôl o’r math a ddarperir ar ei gyfer yn y trefniadau yn ofynnol o fewn unrhyw gyfnod ar ôl yr ad-daliad y mae’n ymwneud ag ef a bennir yn y rheoliadau;
b
darpariaeth ar gyfer ad-dalu symiau i ACC pan na fo’r symiau hynny yn cael eu talu’n ôl yn unol â’r trefniadau;
c
darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol bod llog a delir gan ACC ar unrhyw swm a ad-delir ganddo i’w drin yn yr un ffordd â’r swm hwnnw at ddibenion unrhyw ofyniad o dan y trefniadau i dalu personau yn ôl neu i ad-dalu ACC;
d
darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw gofnodion sy’n ymwneud â dilyn y trefniadau a ddisgrifir yn y rheoliadau yn cael eu cadw a’u darparu i ACC.
4
Caiff rheoliadau o dan yr adran hon osod rhwymedigaethau ar bersonau a bennir yn y rheoliadau—
a
i wneud yr ad-daliadau i ACC y mae’n ofynnol iddynt eu gwneud yn unol ag unrhyw ddarpariaethau sydd wedi eu cynnwys mewn unrhyw drefniadau talu’n ôl yn rhinwedd is-adran (3)(b) neu (c);
b
i gydymffurfio ag unrhyw ofynion sydd wedi eu cynnwys mewn unrhyw drefniadau o’r fath yn rhinwedd is-adran (3)(d).
5
Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ynghylch ym mha ffurf a modd, a phryd, y mae ymrwymiadau i’w rhoi i ACC yn unol â’r rheoliadau a chaiff unrhyw ddarpariaeth o’r fath ganiatáu i ACC benderfynu ynghylch y materion hynny yn unol â’r rheoliadau.
6
Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ynghylch cosbau pan fo person yn torri rhwymedigaeth a osodir yn rhinwedd is-adran (4).
7
Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth yn benodol—
a
ynghylch yr amgylchiadau pan gyfyd rhwymedigaeth i gosb;
b
ynghylch symiau cosbau;
c
ar gyfer cosbau penodedig, cosbau dyddiol a chosbau a gyfrifir drwy gyfeirio at symiau’r ad-daliadau y byddai’r person wedi bod yn agored i’w gwneud i ACC pe byddai’r rhwymedigaeth wedi ei thorri;
d
ynghylch y weithdrefn ar gyfer asesu cosbau;
e
ynghylch adolygiadau o gosbau neu apelau yn eu herbyn;
f
ynghylch gorfodi cosbau.
8
Ond ni chaiff y rheoliadau greu troseddau.
9
Caiff rheoliadau a wneir yn rhinwedd is-adran (6) ddiwygio unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys y Ddeddf hon).
10
Nid yw rheoliadau a wneir felly yn gymwys i fethiant sy’n dechrau cyn y diwrnod y daw’r rheoliadau i rym.
Seiliau eraill dros wrthod hawliadau
I9I1167Achosion pan na fo angen i ACC roi effaith i hawliad
1
Nid oes angen i ACC roi effaith i hawliad am F18ryddhad a wneir o dan adran 63 os yw’r hawliad yn dod o fewn achos a ddisgrifir yn yr adran hon, neu i’r graddau y mae’n gwneud hynny.
2
Achos 1 yw pan fo’r swm o dreth ddatganoledig a dalwyd, neu sy’n agored i’w dalu, yn ormodol oherwydd—
a
camgymeriad mewn hawliad F21neu ddewis, neu
b
camgymeriad o ran gwneud F7hawliad neu ddewis, neu fethu â gwneud hawliad neu ddewis.
F62A
Yn is-adran (2), ystyr “dewis” yw dewis a wneir o dan baragraff 3, 5 neu 12 o Atodlen 15 i DTTT (rhyddhadau sy’n ymwneud â thai cymdeithasol).
3
Achos 2 yw pan fo’r hawlydd yn gallu ceisio F15rhyddhad drwy gymryd camau eraill o dan y Rhan hon, neu pan fydd yn gallu gwneud hynny.
4
Achos 3 yw—
a
pan allai’r hawlydd fod wedi ceisio F3rhyddhad drwy gymryd camau o’r fath o fewn cyfnod sydd wedi dod i ben erbyn hyn, a
b
pan wyddai’r hawlydd neu pan ddylai’n rhesymol fod wedi gwybod, cyn diwedd y cyfnod hwnnw, bod F3rhyddhad o’r fath ar gael.
5
Achos 4 yw pan wneir yr hawliad ar seiliau—
a
sydd wedi eu rhoi gerbron y tribiwnlys yn ystod apêl gan yr hawlydd sy’n ymwneud â’r swm a dalwyd neu’r swm sy’n agored i’w dalu, neu
b
sydd wedi eu rhoi gerbron ACC yn ystod adolygiad gan yr hawlydd sy’n ymwneud â’r swm a dalwyd neu’r swm sy’n agored i’w dalu, sy’n cael ei drin fel pe bai wedi ei ddyfarnu gan y tribiwnlys yn rhinwedd adran 184.
6
Achos 5 yw pan wyddai’r hawlydd, neu pan ddylai’n rhesymol fod wedi gwybod, am y seiliau ar gyfer yr hawliad cyn y diweddaraf o’r canlynol—
a
y diwrnod pan ddyfarnodd y tribiwnlys ynghylch apêl berthnasol y gellid bod wedi cyflwyno’r sail fel rhan ohoni (neu’r dyddiad y mae i’w thrin fel pe bai wedi ei dyfarnu felly);
b
y diwrnod pan dynnodd yr hawlydd apêl berthnasol i’r tribiwnlys yn ôl;
c
diwedd y cyfnod pan oedd gan yr hawlydd hawl i wneud apêl berthnasol i’r tribiwnlys.
7
Yn is-adran (6), ystyr “apêl berthnasol” yw apêl gan yr hawlydd sy’n ymwneud â’r swm a dalwyd neu’r swm sy’n agored i’w dalu.
8
Achos 6 yw pan dalwyd y swm o dan sylw neu pan fo’n agored i’w dalu—
a
o ganlyniad i achos sy’n gorfodi talu’r swm hwnnw a ddygwyd yn erbyn yr hawlydd gan ACC, neu
b
yn unol â chytundeb rhwng yr hawlydd ac ACC sy’n setlo achos o’r fath.
9
Achos 7 yw—
a
pan fo’r swm a dalwyd, neu’r swm sy’n agored i’w dalu, yn ormodol oherwydd camgymeriad wrth gyfrifo rhwymedigaeth yr hawlydd i dreth ddatganoledig, a
b
pan wnaed y camgymeriad oherwydd bod rhwymedigaeth wedi ei chyfrifo yn unol â’r arfer a oedd yn bodoli’n gyffredinol ar y pryd.
10
Nid yw achos 7 yn gymwys pan fo’r swm a dalwyd, neu’r swm sy’n agored i’w dalu, yn dreth ddatganoledig sydd wedi ei chodi’n groes i gyfraith yr UE.
11
At ddibenion is-adran (10), caiff swm o dreth ddatganoledig ei chodi’n groes i gyfraith yr UE os yw’r dreth ddatganoledig a godir, yn yr amgylchiadau o dan sylw, yn groes i—
a
y darpariaethau sy’n ymwneud â rhydd symudiad nwyddau, personau, gwasanaethau a chyfalaf yn Nheitlau II a IV o Ran 3 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd, neu
b
darpariaethau unrhyw gytuniad dilynol sy’n disodli’r darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (a).
F212
Achos 8 yw—
a
pan wneir yr hawliad mewn cysylltiad â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, a
b
pan na fo swm o dreth gwarediadau tirlenwi y mae’n ofynnol i’r hawlydd ei dalu wedi ei dalu.
Gair yn Rhn. 5 Pnd. 7 pennawd wedi ei amnewid (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 21; O.S. 2018/34, ergl. 3